Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARCH. DAYID LLOYD JONES, M.A. Ei Faboed. GANWYD David Lloyd Jones yn Nhalysarn, Arfon, Ionawr 5ed, 1843. Y mae yn ffaith adnabyddus am dano ei fod yn fab i'r enwog John Jones, Talysarn, un o'r pregethwyr grymusaf fagwyd yng Nghymru erioed. Ymddengys fod ei dad yn teimlo dyddordeb dwfn yn y bachgen hwn. Yr wythnos ddiweddaf y bu byw galwodd am David at erchwyn ei wely. Dyma yr hanes fel y ceir ef yng Nghofiant John Jones, gan y Dr. Owen Thomas, cyf. ii., tudalen 754 :­- Wedi iddo ddyfod fe gydiodd yn ei law, gan ei dynu at y gwely, ac a'i cusanodd, ac a ddywedodd wrtho Wel, fy machgen bach i, a wyt ti yn meddwl am danaf fy mod i yn dduwiol ? Ydwyf, fy nhad, yr ydwyf fi yn gwybod," meddai yntau. Beth wyt ti yn feddwl wneud ? A wyt ti yn bwriadu glynu gyda chrefydd ? Ydwyf, am byth," meddai yntau. A fyddi di yn gweddio, fy machgen i ? Byddaf yn treio, fy nhad." Beth fyddi di yn geisio gan yr Arglwydd, fy mhachgen bach i ? Gofyn am ras ganddo a gras, yrwan, i beidio grwgnach, a bod yn foddlawn, a chydnabod Ei law fawr Ef yn hyn oll." "Ie; da, machgen i. Y mae arnom eisiau gras mawr. A chofia lynu gyda chrefydd hyd byth." Nid oedd David, yr adeg yma, yn llawn pymtheng mlwydd oed; a dengys yr ymddiddan hwn â'i dad ryw aeddfedrwydd crefyddol anghyffredin i fachgen mor ieuanc. Y mae'n sicr iddo ddyfod i'r winllan a hi yn dyddhau." Y mae y gwaith da yn cael ei ddechreu mewn ambell un mor foreu ar eu hoes fei nad ydyw eu natur llygredig wedi cael amser bron i ffurfio arferion drwg. Gall Ysbryd yr Arglwydd ddylanwadu ar feddwl plentyn ar doriad gwawr ei ymwybyddiaeth foesol. Byddai y plant yn adrodd adnodau yn y cyfarfod eglwysig yn Nhalysarn, yr adeg honno, fel y maent yn awr; ac yr oedd David yn arwr ym mysg y plant. Byddai yn dewis adnodau mor bwrpasol a tharawiadol; a byddai yn eu dweyd mor hyglyw ac effeithiol fel y byddai sota yn y gymydogaeth am adnod David Lloyd yn y seiat. Byddai rhyw gyfaddasrwydd rhyfedd yn ei adnodau i amgylchiadau yr eglwys ar y pryd, fel ag i dynnu sylw neillduol y rhai fyddai yn eu gwrando. Un tro, pan oedd yr eglwys yn myned i ddewis blaenor- iaid, hon oedd ei adnod, A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo fyny i'r gwter, ac a darawo y Jebusiaid, a'r cloffion a'r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd flaenor,"