Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr oedd y Parch. T. Charles Williams, M.A., Porthaethwy, yn cydbregethu âg ef noson y Cyfarfod Misol yn Llanfair. Nis gallwn wneud yn well na gadael i Mr. Williams ei hun roddi disgrifiad o Mr. Lloyd Jones yn traddodi ei bregeth olaf, yr hon sydd erbyn hyn yn historical sermon Yr oedd yn pregethu y noswaith olaf gyda hwylusdod mawr. Cwynai gan y gwres, a cheisiodd gael pregethu yn gyntaf am ei fod "wedi blino yn cerdded at y capel." Dangoswyd iddo mai rheswm oedd hynny dros orffwys nes y byddai y pregethwr cyntaf wedi gorffen. Wedi cryn berswadio cydsyniodd; ond yr oedd ei awydd am bregethu yn gyntaf yr arwydd cyntaf a gefais nad oedd yn teimlo yn dda. Wedi i mi orffen, ac iddo yntau roddi cyfarwyddiadau pendant, fel arfer, gyda golwg ar ffenestri a'r lampau, cymerodd ei destyn yn Zech. xiv. 21, "Ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhy Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw." Yr oedd yn amlwg ar unwaith ei fod yn siarad â phobl yn meddu parch diderfyn iddo. Nid oedd gair yn cael ei golli. Yr oedd y bregeth o ran cynllun yn un o'r rhai goreu a wrandaw- som ganddo. Wedi rhagymadrodd lled faith am idealism y proffwydi, cymerodd allan o'r paragraph dair elfen yn y cyfnod mawr o Iwyddiant oedd i fod ar grefydd yn y dyfodol. (1) Yr oedd egwyddorion crefydd y pryd hwnnw i dreiddio i bob cylch. "Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch sancteidd- rwydd i'r Arglwydd." Nid mater o Ie ac amser, nid uniongred- edd na defosiwn oedd crefydd i fod, ond bywyd yn treiddio i bob man. Soniai, gydag effaith amlwg, am geffylau y De yng ngwaelod y pyllau glo wedi dyfod i fanteisio ar y Diwygiad: ac y mae ei intonation gogoneddus wrth adrodd y byrdwn, Sancteiddrwydd i'r Arglwydd," yn fy nghlustiau i yn awr. (2). Yr oedd offerynau syml i gael eu defnyddio y dydd hwnnw i'r amcanion uwchaf. A bydd y crochanau yn nhy yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor." Trodd i siarad am "yr hen bregethwyr anwyl," fel y clywsom ef ddegau o weithiau, a'r hiraeth oedd ar eu hol ond y mae Duw yn gwneud i fyny, y dyddiau yma, am golli y meiliau mawr trwy ferwi crochanau bach yn wholesale. Mae'n well ganddo grochan bach, os bydd o 'n berwi, na rhyw foiler mawr oer yn ei eglwys. Yr oeddwn i yn barnu ei fod yn debycach i'w dad, yn 01 fy syniad i am dano, y noswaith hon nag un amser, yn arbennig yn y dull chwareus y gosodai y gwirionedd o flaen y bobl. Gwnai hynny heb beryglu dim ar urddas ac effeithiolrwydd yr Efengyl. (3) Yn y dydd hwnnw yr oedd pob ffurf ar bccliod i ddarfod o'r eglwys ain byth. Ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhý Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw." Yr oedd gelynion y saint i'w gorchfygu a'u holl lygredigaethau i'w darostwng, a'r Canaaneaid i ddiflannu am dragwyddoldeb o dy Arglwydd y lluoedd. Canwyd Llanllyfni ar ei gais ac felly y dibennodd yr odfa mewn ysbryd efengylaidd iawn, ac y tawodd y pereiddiaf o'r udgyrn arian. Caerlleon. J. PRYCE Dayies.