Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn eu ffordd eu hunain. Dyna ysgrifenwyr y Beibl. Y maent oll wedi eu cynhyrfu a'u cyfarwyddo gan yr Ysbryd Glân, ond y mae pob un er hynny yn ysgrifennu yn ol tueddfryd ac anianawd ei briod athrylith ei hun, a'r fath amrywiaeth prydferth a gogoneddus y mae hynny wedi ei roddi ar yr holl Lyfr. Os byddi yn llwyddo i basio trwy y pyrth sydd yn cael eu cadw mor ofalus gan y gwylwyr y dyddiau hyn i mewn i ddinas y weini- dogaeth Fethodistaidd, gwylia arnat dy hun rhag y cymhendod coegaidd hwnnw bair iti dybied dy fod yn rhywun. Y bydd pobl yn dweyd yn wawdlyd wrth edrych ar dy osgo, ac ar dy wisg a'th agwedd, "Y mae golwg bregethwrol, bwysig arno;" neu fel y clywais hen wr yn dweyd wrth edrych ar un, ei fod ar y ffordd yn "ymddangos fel dyn dan ryw arddeliad mawr." Yn un peth, ni ddylai neb wneud hynny gan fod ambell un eto lled gyffredin ei ddawn, a gwanaidd ei alluoedd yn llwyddo rywfodd, er yr holl ofal a'r rhybuddio rhag hynny, i basio y gwylwyr, ond yn bennaf dim am y dylit deimlo, fel y mae pob gwir swyddog yn eglwys yr Addfwyn a'r Gostyngedig o Galon yn gwneud, nad ydwyt wedi'r cwbl, gan nad beth ddichon dy allu a'th lwyddiant fod, ond gwas, ac ar y goreu, gwas anfuddiol. Yr wyf yn cofio bachgen nad oedd ond prin, o anfodd, wedi cael caniatad i bregethu, yn galw ei dipyn sylwadau amrwd yn "air dros fy Nuw," fel pe buasai yn un o broffwydi yr Hen Destament. Cyn nemawr o amser yr oedd hwnnw wedi ei atal am ei fod yn rhodio yn afreolus. Clywais weinidog ieuanc, bachgen- aidd ei lais a'i ymddangosiad, yn dweyd ar ei bregeth wrth son rhyw- beth am flaenoriaid yr eglwys fawr yr oedd wedi ei alw i'w bugeilio, Y mae fy niaconiaid i," gan roddi pwyslais da ar y llythyren fach, fel pe mai cymynwyr coed a gwehynwyr dwfr iddo ef oedd swyddog- ion yr eglwys honno i fod. Yr oeddwn bron a disgwyl i un ohonynt godi ar ei draed yn y set fawr a dweyd yr adnod wrtho, Cydwas ydwyf iti ac i'th frodyr y proffwydi." Ymochel hefyd rhag pob math o rodres mursenaidd. Nid oes dim yn fwy gwrthun yn eglwys Iesu Grist. Beth sydd yn fwy dir- mygus ac andwyol i ddylanwad un yn y pwlpud na chlywed mab y bwthyn mynyddig, neu fachgen y cwm, neu y dyffryn gwledig, yn siarad gyda rhyw acenion nad ydynt gynhennid i'w lais, neu gyda rhyw lediaith Seisonig ddieithr i'w enedigol fro ? Dyna beth arall, paid byth a dynwared neb, pwy bynnag. O ran hynny yr wyf yn credu fod digon o urddas ac anibyniaeth ysbryd ynot fel na welir byth mohonot wedi ymostwng i beth mor ddi- raddiol. Pa fodd y gall neb fod o ddifrif yn traddodi ei genadwri, ac ar yr un pryd yn gorfod caethiwo ei ysbryd i hualau dull a llais un arall ? Nid oes un o'r cyfryw yn teimlo pwysigrwydd eu cenadwri