Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU HIRAETHOG AT EBEN FARDD.* (1848-öU.) Gwerth y llythyrau hyn yw eu bod mor galon-agored. Nid er mwyn eu cyhoeddi yr ysgrifennwyd hwynt: y maent gymaint a hynny yn fwy eu gwerth. Nid i bawb, fel y gwyddis, yr agorai Hiraethog ei galon ond pan gai gyfaill wrth ei fodd, ni chadwai nemawr glo ar un gyfrinach. Nid teg, fe ddichon, fyddai cyhoeddi pob ymadrodd geir yn y llythyrau hyn-er na welai neb call ddrwg yn hynny chwaith ond hawdd deall fod ei deimlad wedi ei gyffroi gan rai pethau a rhai personau, a'i fod yn llefaru ar ffrwst ambell dro. Rhaid cael dau i ffurfio cyfeillgarwch. A fynno gyfeillion, boed gyfeillgar. Rhaid fod yn Eben Fardd yr elfen hon yn rymus, gan fel yr enillai ac y cadwai gyfeillion. Y mae'r llythyrau ato, yng nghronfa Adgof uwch Anghof (Penygroes 1883), yn dangos hynny, ac ategir y prawf gan y llythyrau sydd yn awr ger ein bron. Y mae brawddegau fel hyn, oddiwrth fath Hiraethog, yn well clod na cholofn o brês Hwyrach y caf egwyl i alw heibio i chwi teimlaf hiraeth am eich gweled. Yr wyf yn gweled yr amser yn hir heb lythyr oddiwrthych." Pan gaffoch hwyl ac hamdden gyntaf, cofiwch am danaf, ac Nid byrr fo'r llythyr o'ch llaw.' "Yr oeddwn yn ymsymio wrth ddarllen eich llythyr diwcddaf, y fath anialwch gwag erchyll fuasai y byd hwn heb ambell i gyfaill yma ag acw ynddo­-ie, ambell i gyfaill mynwesol. Gellir cael digon o rai dan yr enw cyfeillion ond ychydig sydd i'w cael o rai a lanwant yr enw cyfaill. Y mae cyfaiíl a lŷn wrthyt yn well na brawd,' medd Solomon. A'r neb y mae iddo gyfeill- ion, cadwed gariad.' Diolch i'r penny postage Y mae weithian yn rhwydd ac yn rhad i gyfaill yn Lerpwl ac un arall yng Nghlynnog i gadw cariad a chyfeillgarwch heb oeri, trwy ohebu â'u gilydd yn fynych. Y mae eich llythyrau a'ch cyfeillgarwch chwi yn wir werthfawr gennyf." (Chwef. 4ydd, 1856.) Bydd yn fwy buddiol i ni ddosbarthu y llythyrau yn ol y pynciau drinir ynddynt. [ HELYNTION EISTEDDFODOL. Y ddwy Eisteddfod fawr yn yr ohebiaeth yw Eisteddfod Aber- ffraw (1849) ac un Rhuddlan (1850). Yn y gyntaf, am awdl y Trwy garedigrwydd Myrddin Fardd, yn rhoddi henthyg y casgliad hwn, y cawsom ddefnyddiau i ysgrif,