Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSBRYDOLIAETH Y BEIBL. Cydnabyddir yn gyffredinol trwy holl wledydd Cred fod i'r Beibl arbenigrwydd amlwg a pharhaus. Saif ar ei ben ei hun ym mhlith holl lyfrau y byd. Cyduna lliaws o bethau i roddi iddo yr arbenig- rwydd hwn. Ym mha le y ceir llyfr arall sydd yn gyfanwaith mor hunan-gyson ag efe ? Pa waith arall sydd fel efe yn delio mor gywir a rhan ysbrydol a dirgelaidd y bywyd dynol ? Ymestynna o ran ei ddysgeidiaeth o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Llefara gydag acenion anffaeledigrwydd, ac ymwna bron yn hollol â mater- ion ysbrydol. Proffesa ddyfod oddiwrth Dduw, ac hawlia sylw difrifolaf pob dyn. Er fod ei ysgrifennwyr yn traethu ar y pynciau dyfnaf a mwyaf dieithr, nid ydynt byth yn ymddiheuro am hynny, nac ychwaith yn amlygu unrhyw ansicrwydd yn yr hyn a draethant. Ni cheir ychwaith ynddynt unrhyw sawyr o falchder hyd yn oed yn eu traethiadau mwyaf oraclaidd. Cydnabyddir Moses, y Deddf- roddwr, fel un o'r llarieiddia o ddynion, a Phaul ac Ioan yn hollol rydd o hunanoldeb a balchder, er cymaint mawredd ac eangder yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt. Gorfodir ni gan gynnwysiad y Beibl i'w osod ar ei ben ei hun. Y mae y foeseg a ddysgir ynddo yn berffaith, mor bell ag y gallwn farnu yng ngoleuni presennol ein profiad a'n gwybodaeth am ddeddfau natur. Daw i'r golwg yn amlycach o hyd nad unrhyw gyfreithiau dynol, mympwyol, sydd i fod yn rheolau bywyd y dyn perffaith, ac fod yn rhaid talu sylw manwl i gyfiawnder, sobrwydd ac hunanaberth, os yw dynoliaeth i gael ei datblygu i'w man eithaf. Y mae moeseg ddifai y Beibl yn cydgordio yn berffaith â chydwybod ac â deddfau anian yn ogystal. Cysyllter hyn â'r ffaith o sefydlog- rwydd diwyrni moeseg y Beibl, ac â chyfnewidioldeb parhaus athrawon neu ysgolion eraill, a chanfyddir reswm cryf dros osod Gair Duw ar ei ben ei hun ym mhlith llyfrau. Rheswm cydrywiol arall sydd yn codi oddiar ystyriaeth o gyn- nwysiad y Beibl yw y cymeriad a roddir ynddo i Grist. Pe na buasai Crist yn ddim amgen na chreadigaeth lenyddol, buasai yn ddigon i roddi arbenigrwydd bythol i'r gyfrol a gynnwysai y darluniad ohono. Ond y mae y ffaith fod Crist yn Berson byw; Ei fod y prif weithredydd yn hanes dynoliaeth er's pedair canrif ar bymtheg, a'r tebygolrwydd mawr mai Efe fydd a'r rhan flaenaf yn ffurfiad cy- meriad dynoliaeth o hyn hyd byth, yn rhoddi ystyr a gogoniant mwy i'r Ysgrythyrau Sanctaidd. Os y rheol yw, fod tebyg yn cynnyrchu tebyg, ac os oes achos cyfartal i bob effaith, yna rhaid fod awdwr neu ddarlunydd cymeriad dinam a difrycheu yr Arglwydd Iesu