Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL. Y SENEDD Newydd Tabl Gymharol y Pleidiau. Amcan yr erthygl hon yw crynhoi prif ffeithiau ac ystadegau Ethol- iad Cyffredinol 1906; egluro natur y nerthoedd fu yn araf falurio rhwymau caethiwed agos i ugain mlynedd o wladlywiacth Geidwadol, ac adlunio'r farn gyhoedd a'i harwain drachefn drwy drochion prof- iadau chwerw i fro rheswm, gan ei dysgu i ymddiricd yn y Blaid Rhyddfrydig, a throsglwyddo awcnau yr Ymerodraeth i'w gofal. Ac yn ben ar y cwbl, cymerir bras-olwg ar y defnydd a fwriedir ei wneud o'r fuddugoliaeth wych er unioni oesau o gamwri dinesig a chrefyddol gan ddychwelyd i'r Bobl gyfran dcg o'u hiawnderau cyffredin. I.—Y CHWILDROAD GWLEIDYDDOL. 1. Bu hir a phryderus ddisgwyl am yr etholiad. Yr oedd y cil- etholiadau yn dystion unfryd fod llanw y farn gyhoedd wedi troi, ac yn rhedeg yn gryf i gyfeiriad y sianel Ryddfrydig. Gwyddai y craff