Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLECHFAEN. Enwau ag y mae chwarelwyr Arfon a Meirion yn dra chynefin â hwy ydyw Llechfaen, Llechau, a Llechen. Y maent wedi cynefino cymaint â'r Llechfeini, ac â'r dull o'u datblygu yn llechau, fel nad yw naw o bob deg ohonynt yn ystyried fod iddynt hanes ag sydd yn llawn o ryfeddodau a dirgelwch. Cydnabyddir gan y dosbarth mwyaf meddylgar yn awr fod rhannau allanol y ddaear yn gyfansoddedig o greigiau a defnyddiau a gludwyd yn wreiddiol o greigiau hynach. Y creigiau hynaf ag sydd wybyddus yn awr yw y dosbarth-greigiau a elwir y Plutonaidd ni ddengys y creigiau grisialaidd hyn unrhyw debygrwydd i ffurfiad haenol, agwahaniaethant yn ddirfawr oddiwrth bob creigiau eraill o ran cyfansoddiad. Gorweddant islaw yr holl greigiau, a ffurfiant y rhannau uchaf o grystyn y ddaear; cyfodant i fyny i rannau uchaf y mynyddoedd, a gwnant eu hymddangosiad drwy bob creigiau eraill heb reol na threfn. Y creigiau hynaf a chadarnaf ag y mae ymchwiliadau dyn wedi eu cyrraedd, a gynnwys- ant arwyddion o fod un adeg yn y gorffenol pell mewn sefyllfa hylifol. Y maent oll yn risialog, ac yn sylfaen orweddol, mor bell ag y mae'n wybyddus i ni, agosaf i'r gwres dirfawr sydd yn amgau- edig islaw crawen enfawr y ddaear. Pan fyddo defnydd wedi ei doddi i sefyllfa hylifol gan wres angerddol, ac yn ddilynol yn graddol oeri hyd galedrwydd, yn dra mynych cymer y ffurfiau rheolaidd sydd yn nodweddu y grisial. Os corff o ddefnydd, cyfansoddedig o wahanol elfennau fferyllol, a ddygir i ystad doddedig, y mae yr elfennau yn cyfuno ohonynt eu hunain drwy eu cydbethynas, gan gymeryd y gwahanol ffurfiau priodol i'w cyfansoddiad gwreiddiol, sef y grisial. Yn y rhaniadau o grystyn allanol y ddaear fel y maent wedi eu dwyn o dan sylwadaeth daearegwyr, ystyrrir yr Ithfaen yr hynaf o'r creigiau cyntefig, a nodweddir ef gan ffurfiau arbennig y grisial yr hyn ddengys ei fod yn ei sefyllfa wreiddiol mewn ystad o dân toddedig, ond drwy belydriad gwastadol y gwres i'r eangder, oerai a chaledai arwynebedd y ddaear yn araf. Yn y dull hwn mae'n debygol y cafodd y corff anferth ac anirnadwy hwn ei fodolaeth, yr hwn a ddirwasgwyd ac a blygwyd, a ddrylliwyd yn agenau a dyfn- derau ond, hyd yn awr, sydd wedi cadw ei gyfanrwydd a'i gadernid í'el ag i ffurfio sylfaen ddigonol, a chyflenwi galluoedd gweithgar natur â defnyddiau i ffurfio yr holl greigiau sydd yn gorwedd arno, o ba rai y mae'r llechfaen yn un. Yn dilyn y creigiau Plutonaidd daw y Metamorphaidd, yr hwn sydd wedi crasu a chaledu, a newid ffurf, pob creigiau y deuai i gyffyrddiad â hwy. Yn nesaf at y Metamorphaidd cawn y dosbarth