Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU LLENYDDOL A DIWINYDDOL. EFRYDIAU, CREFYDDOL, ESBONIADOL, AC YMARFEROL. Gan y Parch. John Prichard, Birmingham. Dolgellau E. W. Evans. Pris, 3S. 6c.-Dywed yr awdwr yn ei raglith mai amrywiaeth yw nodwedd fwyaf amlwg yr Efrydiau, ac mae hynny yn wir. Cynnwysir yn y gyfrol draethodau, areithiau, a phregethau, a'r oll yn ymwneud, i fesur, â'r bywyd Cristionogo!. Rhydd yr amcan ym- arferol hwn, sydd yn wastad o flaen llygad yr awdwr, unoliaeth i'r gwaith. Sicrheir ni ym mhellach fod cydymdeimlad dwysaf Mr. Prichard yn rhedeg yn wastadol tuagat y bobl ieuainc crefyddol, darllengar, a meddylgar," sydd wedi ac yn cychwyn eu gyrfa ar y ddaear mewn oes o derfysg meddyliol, ac sydd mewn ymrysonfa onest âg anhawsderau i aros yn y pethau a ddysgwyd iddynt." Nid yw heb obaith y bydd i'r Efrydiau hyn roddi cyfeiriad i'w meddyliau a fydd yn foddion i gadarnhau eu calonnau mewn ffydd yng Nghrist, ac yn y Beibl." Dyna safbwynt a nôd yr awdwr. Credwn ei fod wedi llwyddo i w sylweddoli. O leiaf, os gwna meddylgarwch apelio at feddyliau ein pobl ieuainc, fe! yr arferir synied y bydd iddo wneud, ni phetruswn ddatgan y farn y profa darlleniad ystyriol o'r Efrydiau hyn yn fantais dirfawr i ffydd a gwybodaeth y cyfryw. Oblegid dangosir mwy o feddwl ynddynt nag o unrhyw ddawn arall. Nid ydym arn geisio gor-ganmawl gallu llenyddol yr awdwr, a chlodfori yn ddifesur ei arddull Gymreig, ond dywedwn yn ddifloesgni bod ôl darllen manwl, a myfyrdod dwfn ar bob un o'r ysgrifau sydd ger ein bron. Rhoddir y lle blaenaf yn y gyfrol i draethawd ar Ddyrchafiad Cenedl mewn Crefydd a Moesoldeb." Ar ol dangos fod safle uchel gydmariaethol Cymru heddyw mewn moesoldeb i'w briodoli i'w chrefyddolder, ond fod eto dir i'w feddiannu, ac fod y meddiant hwn yn oll-bwysig ceir golwg ar lwybr y dyrchafiad, sef addysg Yr aelwyd yw Alpha ac Omega addysg. Y mae addysg pob dyn yn dechreu yn y teulu, ac mewn un ystyr bwysig yn cael ei berffeithio yno. Yn y teulu y mae sylfaen yr adeiladaeth yn cael ei gosod i lawr, ac yn y teulu hefyd y dygir hi i orffeniad. Y mae dyn ar yr aelwyd yn dysgu llawer yn flaenorol i addfedrwydd angenrheidiol i amgyffred a theimlo pwys gwirion- eddau mawrion ar yr aelwyd drachefn y ceir cymhwysder penaf i sicrhau i'r gwirionedd wedi ei amgyffred ei amcan eithaf mewn bywyd o ufudd-dod iddo. Rhagoriaeth addysg yr Ysgol Sabbothol a'r argraffwasg yw y meddwl- garwch a genedlir a'r hyfforddiant a gyfrenir. Rhagoriaeth addysg y pwlpud yw y gydnabyddiaeth a geir trwyddi â phwys-fawredd a gogoniant y gwirionedd. Fel yr awgrymwyd, y mae y gwaith yn gyflawn yn waith pob un o'r galluoedd. Y mae yr Ysgol Sabbothol a'r argraff- wasg yn colli yr amcan pan y maent yn cyfyngu eu gweithgarwch yn gwbl i diriogaeth y deall, ac yn gadael y gydwybod a'r galon yn ddioruchwyl- iaeth. Y mae y bregeth yn hanfodol ddiffygiol sydd yn fyr o borthi y gwrandawyr â gwybodaeth ac â deall. Ac y mae yr arferion a ffurfir ar yr aelwyd, er iddynt fod yn grefyddol eu ffurf, yn disgyn i lefel ysgogiadau olwynion peiriant, os esgeulusir amaethu y deall a'r rheswm mewn cydna- byddiaeth â chynnwys a gogoniant y gwirionedd. Eto i gyd, y mae cyfadd- asder neillduol yn yr Ysgol Sabbothol a'r wasg i ddwyn dyn i wybod y gwirionedd yn y pwlpud i'w ddwyn i deimlo y gwirionedd ac yn y teulu i'w ddwyn i wneuthur y gwirionedd. Ac yn hyn y mae dyrchafiad cenedl mewn crefydd a moesoldeb yn gynwysedig. Yn y dyfyniad uchod ceir cnewyllyn yr holl drafodaeth. Dechreuir gydag Addysg Ragbaratoawl yr Aelwyd," yna dilynir hwy gyda sylwadau ar dir- 'ogaeth gwasanaethgarwch yr Ysgol Sabbothol a'r Argraffwasg; yna daw