Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. CYMRU YM MHEN HANNER CANRIF. Un noson yn ddiweddar, eisteddais yn hwyr wrth y tân cyn myned i orphwys. Fel diffoddai y marwor, gwibiaù fy meddwl ol a gwrthol. Ceisiwn ddyfalu dyfodol fy -ngwlad.. Haws, modd bynnag, ydoedd dwyn i'm cof y cyfnewidiadau a ddigwyddasent 'yn ystod fy mywyd o hanner canrif. Toc, aethum i'r gwely; ac fel y syrthiais i drym- gwsg, meddwl yr oeddwn am'gyflwr gwasgedig masnach ac amaethu yng Nghymru, ac yn arbennig yn Mon ac Arfon. Cyn hir, clybum Lais: "A hoffit ti weled Cymru yn 1956?" Atebais innau yn ebrwydd Ni byddai dim yn well genyf." Ar darawiad amrant, cludwyd fi gan ryw gyfaredd, nad oes genyf esboniad arno, i ben bryn pur uchel. Hyfryd iawn oedd y dydd- diwrnod yn mis Mehefin. Ymdrochai pob twyn a phant mewn tes ysplenydd tawel. Yr oedd agwedd mor a mynydd yn gynnefin i mi. Ond gwelwn ar bob tu arwyddion fod cyflwr cymdeithasol y trigol- ion wedi newid yn ddirfawr. Yn wir, bum am gryn amser cyn sylweddoli gymaint oedd y gwelliant yn osgo a diwyg y gwladwyr syml y trigaswn cyhyd yn eu plith. Gan edrych i lawr, gwelwn ar bob llaw arwyddion o lwydd a ffyniant. Yr oedd y bobl yn sobr, diwyd, iach, a boddlon. Gofynais am eglurhad. Ebe'n Harweinydd cyfrin Mae'n debyg dy fod yn synu at y tyrfaoedd o bobl ddeallus a thrwsiadus, y preswylfeydd godidog, ar bob llechwedd, y ffatrioedd enfawr o'n cwmpas, a'r holl argoelion eraill 0 lwyddiant a hawddfyd ? Gwir," oedd f' ateb innau. Beth fu'n achos y cyfnewidiad ? "Y prif achos oedd Mesur Tír 1912— gorchest anfarwol Lloyd- George. Am 40 mlynedd, bu'r werin yn talu'n ol i'r Llywodraeth yr arian a fenthyciwyd ganddynt er mwyn sicrhau gwaredigaeth heddychol o'r hen landlordiaeth. Dair blynedd yn ol, daeth tua thri chwarter o holl dir Cymru yn feddiant llwyr i'r bobl sydd yn ei drin. Dyna ryddhad i'r genedl o hualáu'r bendefigaeth ormesol ac estronol. Mawr, ie, dirfawr, oedd y llawenydd. Fel y gwyddost, yr oedd y werin yn byw, hanner canrif yn'ol, wrth ewyllys rhyw wr mawr-estron fel rheol mewn teimlad, iaith, a chrefydd-y meistr tir. Weithian, y mae'r bobl yn llafurio er lles eu teuluoedd. Mae'r bendefigaeth—locustiaid y wlad, wedi diflanu. Yn lle bod un dyn yn berchen darn mawr o wlad, fel yn 1905, ccir yn awr filoedd o