Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRISTION A'R WLADWRIAETH. Cyfuna Cristionogaeth, yn berffaith, grefydd a moesoldeb, tra yr aberthid y naill ar allor y llall i raddau gormodol gan y cyfun- draethau dynol. Pwysleisiai Brahminiaeth a Mazdeaeth grefydd gymaint, fel nad oedd le priodol ynddynt i foesoldeb; a gosododd Budda a moesddysgwyr Groeg a Rhufain y pwys ar foesoldeb, nes anwybyddu crefydd. Dechreuwyd yn iawn o ran trefn, drwy i'r cyfundrefnau hynaf roddi yr amlygrwydd i grefydd, yr hon ydyw gwreiddyn moesoldeb ond y diffyg oedd nad oedd y ddwy wedd yna ar fywyd yn cael sylw yn yr un o'r cyfundraethau a nodwyd nes gwneud moesoldeb yn ffrwyth crefydd. Gwneid y diffyg yna i fyny mewn Iddewaith. Cynnwysai hon ddwy lech, y rhai oeddynt yn seiliau i ddyledswyddau dyn tuagat Dduw, ac i'w ddyledswyddau tuagat ei gyd-ddynion ond tra-rhagora Cristionogaeth ar hyd y nod Iddewaith. Y mae hon, nid yn gorffwys ar lechau cerryg, ond yn gorfforedig mewn person dwyfol, yr hwn yw hanfod crefydd a sylwedd moesoldeb, fel mai yr un mewn dwy agwedd wahanol ydynt. Moesoldeb yn ei ochr nefol ydyw crefydd, a chrefydd yn ei hochr ddaearol ydyw moesoldeb. Ac y mae perthynas crefydd â Christ, nid yn unig yn codi moesoldeb i'r man uchaf o ran ei natur, ond hefyd yn ei wneud yn ymarferol o ran ei duedd. Diffyg mawr y cyfundraethau dynol 0 foesoldeb oedd ymarferoldeb. Yr oedd Stoiciaeth, Aristoteliaeth, PIatoniaeth, ac Epicuriaeth yn ddiffygiol mewn un o ddau beth- naill ai nid oedd ynddynt gynllun cyflawn o foesoldeb, neu ynte nid oedd ynddynt gymhelliad digon cryf i beri i ddynion weithio allan i ymarferiad y gwersi moesol a gynnwysent. Nid oeddynt yn gallu nodi allan pa fodd yr oedd dynion i fyw o dan wahanol amgylchiadau bywyd, neu ynte methent ddangos iddynt paham y dylasent fyw fel y gorchymynnid iddynt wneud. Ond y mae y ddau ddiffyg yna wedi eu gwneud i fyny mewn Cristionogaeth, yr hon a anoga ei phroffeswyr i ddilyn esiampl Crist, yr hwn a fu fyw o dan yr un amgylchiadau a hwythau, ac a'u cymhella i wneud yr oll a gyflawn- ant oddiar gariad at Grist. Felly, gan mai Crist ydyw cynllun a chymhelliad bywyd y Cristion, yr oedd yn hawdd i'r Cristionogion boreuol i ganfod fod moesoldeb yn beth ymarferol. Os ydyw gwas yr amaethwr yn gallu gwasanaethu ei feistr, wrth lafurio ar ei gais ar fferm ei gymydog, yr oedd yn bosibl i'r Cristion i wasanaethu yr Arglwydd pan yn cyflawni yn ei enw ei ddyledswyddau teuluol, neu ei oruchwylion bydol, neu ei rwymcdigaethau cymdeithasol. Ond nid oedd mor eglur i'r Cristionogion ar y cyntaf, pa fodd yr oeddynt i ymddwyn tuagat y llywodraethau gwladol. Credent fod y