Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodwedd arall yn perthyn i'r llechfaen yw yr hollt. Hollta yn ddalennau teneuen, gan ffurfio gwyneb gwastad heb fod yn hollol gyfochrog â'r gwely, ond yn aml at ongl uchel, eto yn wastad at ongl gywir i'r gwely. Gelwir hi yn hollt-lech i'w gwahaniaethu oddiwrth hollt-greigiau eraill hollol wahanol eu hymddangosiad. Os rhoddir darn o lechen o dan y chwyddwydr, canfyddir fod hyd cyfansoddiadol y graig wedi troi fel ag i fod yn union â gwyneb yr hollt, yr hýn sydd yn galluogi y graig i hollti yn rhwyddach ar ei hyd nag unrhyw ffordd arall. Pe cymerid telpyn o glai cyffredin a'i roddi o dan y chwyddwydr, gwelid fod y mân ddail grisialaidd sydd ynddo yn gorwedd yn hollol fel y gwaddodasant yn y dwfr, heb unrhyw drefn arbennig tra yn y llechen y maent oll yr un ffordd a'i hyd. Felly rhaid fod rhywbeth wedi eu troi yn y modd hwn. Gan fod y llech- faen yn cynnwys cerryg mân, sylwer eu bod oll yn wastad a gwyneb yr hollt, yr hyn sydd yn awgrymu eu bod wedi eu gwasgu yn deneu gan bwysau. Hefyd, dengys y graig ol dirdyniadau mawrion, ac y mae cyfeiriad gwyneb yr hollt yn rhedeg yn union i echel y plygiad. Y mae'n eglur mai yr un pwysau dirwasgol a gynhyrchodd y plygiad a drefnodd hefyd y mân ronynnau dalennog sydd yn cyfansoddi yr hollt yn y llechfaen. Tra y mae'r hollt yn ganlyniad graen newydd wedi ei roddi i'r graig gan bwysau dirwasgol, y mae ynddi fath arall o doriadau neu agennau sydd yn torri y graig ar ei hyd ac ar ei thraws, ond nid yw y graig yn symud i fyny nac i lawr gyda hwy megis yn y faults. Rhed y toriadau hyn yn gyffredinol mewn ongl gywir i'r gwely, ac yn aml yn ddwy gyfres gywir ongl y naill i'r llall. Gelwir hwy yn master joints, ond gan y chwarelwyr "bônau" a chefnau." Y mae cyfeiriad llinellol y cefnau yn gyfochrog â stolpiad neu bileriad y graig, tra mae'r bonau yn gydgyfeiriol â gwaelod y gwely, neu yn fwy ymarferol, ar draws y stolpiad neu'r pileriad. Os bydd rhifedi mawr o gefnau mân mewn trwch a dyfnder ueillduol o'r graig, gelwir ef y pryd hynny yn dezv gwniadog. Y mae rhai toriadau afreolaidd, yn ddiameu heb fod yn ddim amgen nag agennau crebachol gan wres, neu drwy i'r graig yn ymarferol sychu,-y cyfryw ag a welir mewn clai neu galch teneu wedi ei redeg. Ond, nid hyn yw y rheswm gwreiddiol am yr agennau mawr- ion cywir ongl hyn a elwir cefnau crynion a bônau, gan eu bod yn tori trwy gerryg mân caled mor rhwydd ag y naddir llechen ar y drafel. Oddi wrth hyn, ymddengys eu bod wedi eu ffurfio pan yr ocdd yr holl graig yn cael ei chaledu, pryd yr oedd mor hawdd torri trwy y cerryg mân â thrwy dywod rhywiog. Ymhellach, y mac y Y LLECHFAEN. (Ail YSGRIF.)