Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEF GARLANT 0 Frith-ganeuon AR DDYRUS Lwybrau BYWYD. Life like a dome of many-coloured glass Cynnwys.—Deffröad Anian—Helyntion y Dydd—Swynion yr Hwyr—Ar y Traeth— Annerch i'r Môr—" Yng nghanol ein bywyd yr ydym yn Angeu "—Cathl i'r dewrion —Y Nos. GOLEUDDYDD, Stains the white radiance of eternity. Shelley. CANIAD I. LLAFUR. Y Gauaf oer a giliodd I drumau'r gogledd peil, Ei oernad blin a'i genlli brwnt Ostegodd yn ei gell Nid oes dolefain mwyach I'w glywed ar y traeth, Ar dir a môr, dros ddol a bryn, Rhyw lwys dangnefedd ddaeth. Mae Anian eto'n deffro Yn iach o'i thrymgwsg hir, Ymlwybra i lawr i'r aber gain, Ac yn y dyfroedd clir Yn llawen hi ymolcha, Dan byncio melus gân, Ac yna chwardd ac ê1 i'w hynt Yn ail i dduwies lân. Mae hoewder yn ei chamrau, Gorfoledd dan ei bron, A thros ei min rhyw foddus sain Ddisgynna'n dòn ar dòn Mae'n ymdaith dros y dolydd Yn ieuanc ac yn hardd, A than ei sang yr anial dir Yn ebrwydd drydd yn ardd. Fel gwyryf falch yn dyfod I wydd ei dewis ddyn, Hi ddoda wisg sidanwe werdd Yn addurn arni ei hun; Ac yna rhed yn heini O dyfol bren i bren, A llunia bleth o fanddail tlws I'w gosod ar ei phen.