Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DANIEL OWEN. ADGOFION A Myfyrion am DANO. YN yr ysgrif ^o'r blaen ymdrechais oreu ag y gallwn roddi crynodeb o ddechreuad ei yrfa, a hwyrach mai nid anyddorol fyddai i mi fyned ymlaen i ddisgrifio beth oedd ffrwyth neu gynnyrch ei lafur yn y rhan ddiweddaf o'i oes. Pan ddeuais i gydnabyddiaeth âg ef gyntaf yr oedd yn gofalu am y Cyfarfodydd Ysgolion yn nosbarth y Dyffryn, a chefais y fraint o dreulio un Saboth yn ei gymdeithas, yng Nghaerwys, tua'r flwyddyn 1873. Nis gallaf ddweyd fod dim byd yn neillduol yn hynodi ei berthynas â'r Cyfarfod Ysgol, a gwelais ddynion, y rhai oeddynt yn anhraethol llai nag efe, yn dangos mwy o ddawn i holi, ac i gael eraill i gymeryd dyddordeb yn yr atebion, nag a ddangosid fod ganddo ef y Saboth hwnnw, a bu'm yn meddwl wrth fyfyrio am y tro mewn blynyddoedd diweddarach nad rhyw lawer o ddyddurdeb mewn diwinyddiaeth, yn enwedig yn y wedd Hyfforddiadol arni, a gymerai efe. Yn wir, mae yn gwestiwn gennym a fuasai byth yn dyfod yn ddifinydd tan unrhyw amgylchiadau, er fod ganddo gydnabyddiaeth go helaeth o diwinyddiaeth bregethwrol y tadau Methodistaidd yn yr oes o'r blaen, yr un fath yn union ag a feddiannid gan bob gwrandawr sylw- gar o'r oes honno. Ond, nid yn ei ddiwinyddiaeth yr oedd Daniel yn rhagori, nac yn ei amgyffrediad ohoni ychwaith, ond yn hytrach yn ei gydymdeimlad dwfn â dyn, ac â dynoliaeth, ac yn ei fedr rhyfedd i draethu ei gydymdeimlad fel y gallasai neb pwy bynnag adnabod ei hun, a gwybod sut y buasai ef ei hunan yn teimlo ac yn gweithredu yn nhemtasiynau bywyd pe yn cyfarfod â hwynt. Yma, mi gredaf, oedd lle y gorweddai dirgelwch gallu a llwyddiant Daniel Owen. Y cwestiwn i ni yn awr ydyw, Pa bryd a pha fodd y daeth i'r ymwybyddiaeth hon o'i allu, ac o'i gymhwyster i ddangos ei hunan i bobl eraill ? Wedi meddwl tipyn am y peth, ac yn awr er ys rhai misoedd, yr wyf yn barnu mai nid ar unwaith y datguddiwyd hyn iddo, ond iddo ei gael o fesur tipyn i beth, a threiaf ddisgrifio y sut a'r pa bryd. Yr oedd yna ryw ysfa am roi pin ar bapur arno erioed; ac wedi ei ddychwelyd o'r Bala dechreuid cyhoeddi yn wythnosol bapur newydd bychan a elwid The Mold and Denbigh Chroniclc. Yr oedd y papur yn un hynod o ddiymhongar. Ni fedrai y gwr ieuanc a'i cynrychiolai, er yn feistr purion ar y llaw-fer, ond ychydig o fedr i ddisgrifio dynion a phethau, er y byddai yn treio ei law ar