Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

454. A Volume of Welsh Poetry." Marwnad Gruffydd Hir- aethog, y bardd a'r hynafiaethydd enwog, gan W. Llyn. 476. Amryw gyfansoddiadau gan W. Llyn ynddo. 482. A Genialogical and Heraldic MS." Y rhan fwyaf o hwn yn llaw W. Llyn: Y rhan amlaf o'r tariannau yn yr arfluniau mewn lliwiau (4to., sixteenth century). 483. Folio." Wedi ei ysgrifennu yn niwedd yr 17fed ganrif, neu ddechreu y 18fed, ac ynddo waith W. Llyn. 493. Ym mhlith eraill, gwaith W. Llyn yn hwn. 497. "Casgliad gwerthfawr o Farddoniaeth ac Achau." Yma cawn awdl gan W. Llŷn i Hugh Nanney o Nanney," ysgrifenedig yn 1577. 500. Welsh Poetry." Y rhan fwyaf yn llawysgrif Griffith Roberts o Isallt, ac ynddo cawn gasgliad da o weithiau D. ap Gwilym, Richard Phylip, Huw Llýn, William Llyn, &c. Nodiadau. Ychydig ddyddiau yn ol, wrth redeg fy llygaid trwy wahanol 1aw- ysgrifau-gwrthddrychau dalennog fy serch-nad oeddwn wedi bod yn eu chwilota er's cwrs o amser­—pleser imi oedd d'od ar draws ambell bwt o ysgrif, ym mysg eraill, ag oedd i raddau wedi ymgolli yn llwch pethau symudol, fel y nodwydd ddiarebol yn y das wair. Bu hyn yn achlysur i'm hannog i anfon ychydig dywysenau ohonynt i'w cadw yn ystordy y Traethodydd rhag eu myned ar ddifancoll, yn gystal ag i awgrymu ar i eraill sydd â'u tuedd at gerdded hen lwybrau chwanegu atynt gyffelyb betheuach Rhif I., a gopïwyd o un o ysgriflyfrau Eben Fardd-enw, ebai Ioan Tegid, sydd megys enaint gwerthfawr." Rhif II., a gopïwyd o lawysgrifen brydferth­y llythyrennau yn fychain a'r llinellau yn agos i'w gilydd. Yn hytrach na rhoddi dyfaüad yng nghylch yr ysgrifennydd, gan nas gwn yn drylwyr pwy, cymered y darllennydd y cyfryw hanesion am y gwerth a gynnwys- ant. Nid oes achos i amheu na wyr agos i bawb mai llygriad o'r Saesneg breed yw y gair frid dan y rhif hwn, yn golygu epil, hil, hiliogaeth, &c. Rhif III., sy' grynodeb rhestredig o destynnau cyfansoddiadau Wiliam Llýn, allan o ysgriflyfrau Hengwrt, ag ydynt yng nghadw yn Llyfrgell gyfoethog Peniarth, ac a ysgrifennwyd, ym mhlith pethau eraill, gan y llafurus a'r gwladgarol ddiweddar W. W. E. Wynne, Ysw., F.S.A. Wedi hynny, a gyfunwyd megis rhwng trosiad ac aralleiriad i Gymraeg, gan y Parch. Richard Lloyd, Garth Celyn, Criccieth-gwr cyfarwydd yn nheithi llenyddiaeth ei genedl-o deil- yngdod ymddiriedol yn cael ei gydnabod-clodforus am ei rinweddau anghyffredin, a'i ragoroldeb mewn dysg a gwybodaeth, yn bregethwr hyawdl ac effeithiol, heb son am lawer o ragoriaethau eraill sydd yn ei addurno eithr anawyddus hollol am gyhoeddusrwydd.