Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYLED AQUINAS I AYERROES. MEWN llyfr a ysgrifennwyd er cof am fywyd yr ysgolhaig Francisco Cadera, Zaragoza, Yspaen, cefais hanes hynod dyddorol ar y testyn uchod. Rhydd gyfieithais eiriau y Proff. Miguel Asin o'r Yspaeneg a dyma'r cynnyrch at wasanaeth cylchgrawn clodfawr Cymru. Llyfr pendant Averroes, y doethawr Mahometanaidd, ydyw Kitab Falsafa (Llyfr Athroniaeth). Prif lyfrau y doethawr Catholig hyglod, Sant Thomas Aquinas, yw ei Summa Theologice (Crynodeb o Ddiwinyddiaeth) a'i Commentarius super Boethium (Esboniad ar Boethius). Awn rhagom i ddangos y cysylltiad rhwng Averroes (sef Ibn Rwshd­‘‘ Mab Uniondeb ") a Sant Thomas-y Doethawr Angylaidd." I.—RHESWM A FFYDD. Ar y pwnc hwn, ymhelaetha'r ddau ar barhad ac ehangder gwybodaeth yn eu hymdaith; ar agwedd fedd- yliol addas tuagat bob math o feddylwyr gwahanol i ni ar ein dyledswydd i ddiolch i'r meddylwyr hynny am eu cynnorthwy; ac ar ryddid barn ddiofn a ddibartiaeth parthed athroniaeth adiwinydd- iaeth ein cynoeswyr. (Yn y Kitab, gweler td. 4, 1, 8. — Yn y Sutnma, gweler td. la, 2æ, a mannau eraill. Hefyd gweler Comment. tu Polit., iii., 8a, 1.). II.—YMHOLIADAU Rheswm. Nis gellir disgwyl amgyffred pob gwirionedd drwy swyddogaeth Rheswm. Anesboniadwy yw dir- gelion Teyrnas Dduw. Cytuna'r ddau ddysgawdwr mewn amryw fannau ar hyn. III—GWYDDOR A DADGUDDIAD. Ar y berthynas rhwng gwybod- aeth dyn ac ymddadguddiad Duw, y mae Averroes yn difynu tystiol- aech Algazel (Abu Hamid)­sef ei Waith Arabaeg ar "Ymrafael rhwng Islam ac Anghrediniaeth." Gan St. Thomas, ceir sylwadau i'r un cyfeiriad yn ei Summa, yn nechreu ei Boethius ac mewn man arall. Dyddorol yw sylwi ar unoliaeth y Catholig a'r Mahometan. Dechreua'r naill a'r llall gydag anffaeledigrwydd Duw. Wedi'r Cwymp, gwelir anallu Rheswm, pan geisia hi dreiddio i ystyr Dad- guddiad. Eto, heb ddeall, anweddus ydyw amheu, gan nad oes elyniaeth rhwng dau wyneb yr un gwirionedd. Er mai mewn ieitheg ddwyreiniol a hanes diwinyddiaeth yr oedd cryfder Ernest Renan, gwnaeth efe, a Mandonnet hefyd, gam ag Averroes, oherwydd nad oedd ganddynt ond cyfieithiad Lladin anghywir o'i waith. Parodd tueddfryd (Yspaeneg: auto-sugestion) Renan iddo gyhuddo Averroes ar gam o drawsedd yr anffyddloniaid a'r Laodi- ceaid. Gwelsom yr honnai Averroes, yn y Kitab, fod Crefydd a