Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rheswm wedi ymgusanu. Cred adyn yw Averroes; ond rhoed arno enw dyn digred. Ci cynddeiriog yn cyfarth yn erbyn y Catholic- iaid" oedd enw Petrarch arno. Gwelir yr hanes anghywir am ei elyniaeth i Grist yn llyfr Renan "Averroès et V Averroïsme," 292, 300 (1866). Gwiw cofio nad oedd llyfrau Averroes yn argraffedig mewn Arabaeg yn amser Renan. Ond am ddisgyblion Averroes, gan ddilyn y Meistr (Aristotl), yn rhy gaeth a chan wrthod awdurdod y Pab, bu raid iddynt fahwysiadu athrawiaeth am "Wirionedd Dyblyg" -athrawiaeth hollol anerbyniol gan Averroes, yn ol rhediad ei weithiau. Yn ystod tywyllwch y Canol Oesoedd, cychwynodd y disgyblion hyn y traddodiad ofer am anghrefydd Averroes. Islamiad ydoedd efe; a chan hynny, anghredadyn, yn ol Eymeric ac eraill. Fel prawf o anwybodaeth Eymeric, darllenner ei waith, Hanes Bywyd Mohamed y proffwyd." Dywed efe mai offeiriad Cristionogol,brodor o Bologna, wedi gwrthgilio, ydoedd Mahomet (. clerico Christiauo de Bononia, civitatc Italica, oriundo, sed. fide postea apostata'). Yn y Canol Oesau, rhwydd gymysgwyd yr athraw a'r gau-ddisgyblion a honnent eu bod yn ei ddilyn. Cynnydd- odd y traddodiad fel tân gwyllt, rhwng 1300 a 1700. Wedi hynny, edrychid ar Averroes fel patriarch yr hereticiaid." Sut y gellir cyfrif am y ffaith fod geiriau a syniadau Averroes a Sant Thomas Aquinas debyced i'w gilydd ? Ai damwain ? Ai llen- ladrad ? Ai dilyn, ill dau, yr un awdurdod ? Nid oes lle i'r ail dyb. Drwy gau allan, rhaid i ni gan hynny gydnabod fod Sant Thomas yn dilyn y doethor Mahometanaidd, os rhaid i ni esbonio yn ol ffrwyth ein hymchwiliad." Felly y dywed Miguel Asin yn y gyfrol dan sylw. A dyma'r prawf a rydd efe :Gwnaer cym- hariaeth o'r Kitab a'r Summa contra Gentes. Yn wastadol, dyma ddull Sant Thomas o ymresymu Gosod haeriad pendant; profi hwnnw yn 01 athroniaeth Aristotl difynnu adnodau o'r Beibl i ddangos cydsyniad Rheswm a Ffydd. Dyna hefyd ddull Averroes. Ymhelaetha efe yn barhaus ar achosion amheuaeth. (" A wypo a ddetyd y cwlwm.") Yn ol Aristotl, —Myfyr ar Fyfyr-ydyw Duw. Felly hefyd y dysgai y ddau dan sylw, Averroes a Sant Thomas. Dan ddylanwad Aristotl, dysgent ill dau mai gwaith Duw ydyw y Byd-effaith Rhagluniaeth (Arabaeg, hikmat). Trefnwyd popeth drwy yr unrhyw Ragluniaeth—nid yn unig mewn perffeithrwydd, ond gydag amcan arfaethedig. At y diben hwn yr ymegnia pob peth ac ato rywbryd y cyrhaedda. Dangosodd y ddau philosophydd-" Esboniwr Mawr Cordova a'r Doethor Angyl- aidd "-(gan arferyd yr un rhesymau, dadleuon, ac engreifft- iau) nad yw Trefn y Byd yn anghyson â Drwg. Yn hytrach, y mae Trefn y Byd yn gofyn bodolaeth drygioni. Tân yw yr engraifft fawr a roddir gan ry ddau ddysgawdwr. Gweler Kitab 95, 96)