Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hefyd gweler Summa contra Gentes, iii., f. 1, "nonest divinæ providentiœ malum totaliter a rebns excludere. (Ni pherthyn i Ragluniaeth Ddwyfol gau drwg yn llwyr allan o'r byd.*) Haerai y ddau ddysgawdwr, ym mhellach (yn erbyn Duns Scotus ac Occam) mai cyntefig achos moeseg yw Gwybodaeth Duw. Mwy fyth, cwbl-ymwrthyd Averroes a Sant Thomas âg athrawiaeth yr Awstiniaid, sef mai Ewyllys Duw oedd achos creu dyn. Yn ol y ddau athronydd, gweithred o Wybodaeth, yn hytrach, oedd creu dyn canys i Dduw, y mae pob dyn unigol yn gystal a dynolryw yn drwyadl hysbys. Dysgent felly Scientia Dei esi causa rerum." (Achos popeth yw Gwybodaeth Duw.) Yn gyffredin, Aquinas, gan dewi, a daw. Eithr yn y Summa contra Gentes, iii., 65, dengys efe mor hyddysg ydyw yn noethineb Averroes a'r Arabiaid-sef y Mutakallimin fi shariat-il-Islam. Disgrifia Aquinas hwynt fel loquentes in lege Maurorum." Athrawon defosiynol cyfraith Islam ydoedd y gwyr hyn. IV.—CREADIGAETH Y BYD. Dyma bwnc arall y mae Aquinas yn dilyn Averroes arno. Yn 01 Averroes, ni chrewyd y byd, eithr parhau y mae o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb-ab æterno. Yn 01 y Beibl, crewyd y byd. Felly dywed Aquinas Y ffaith yw, bu dechreu i'r byd mewn amser fel i bopeth arall a grewyd ond trwy ffydd yn unig y delir nad yw'r byd yn bod erioed, a thrwy ymresymu nis gellir profi'r haeriad." (" Mundum non semper fuisse sola fide tenetur et demonstratione probari non potest."—Summa Theologiæ: p. la, q. 46, a 2.) V.-Ar un pwnc yn unig, ANFARWOLDEB Eneidiau, ymesyd Aquinas yn bur ffyrnig ar Averroes. Weithian, Llygrwr athron- iaeth Aristotl (depravator philosophiœ Peripateticœ) ydyw Averroes. Dyna ddywed Aquinas yn ei draethawd ar Undod eithr yn hwnnw, collodd Aquinas ei dymer angylaidd yn lan. Dywed Renan mai Esboniwr mawr," yn ol un blaid, a phatriarch y digred," yn ol plaid arall, oedd Averroes. Aquinas oedd unig ddilynwr Averroes ym mysg dysgawdwyr eglwysig y Canol Oesoedd. Rhwng Aquinas ac Averroes, daeth Maimonides a. Raimundus Martinus, o waith yr hwn y copïwyd darnau i'r Summa Theologiæ. Mor dost yr ymrafael rhwng y Thomistiaid a'r Awstiniaid fel y darfu i'r olaf farnu Aquinas ac Averroes yn gydeuog o heresi. Fel esiamplau, cymharer hefyd:— Kitab 94 a'r Summa, c.g., iii., 163. 93 I29. 53 53 Huw H. JoHNSON. Prifysgol Prifddinas Llydaw.