Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

certain little trifle of light." Ymddengys i Philarus ddal gradd o obaith o flaen Milton am fedr meddyg enwog o Paris i adferyd golwg iddo. Ni ddisgwyliai Milton ddim oddiar law y meddyg, eithr ymdawelodd i'r ragluniaeth drom. Edrydd ei brofiad mewn geiriau o'r fath yma Gan fod aml ddyddiau tywyll, fel y rhybuddir ni gan y Gwr Doeth, wedi eu hordeinio ar ein cyfer, byddaf yn rhyw feddwl yn fynych ynof fy hun fod fy nhywyllni i, yn gorffwys, neu gyda'm hefrydiau, yng nghanol lleisiau yn fy nghyfarch, trwy diriondeb neilltuol Duw, yn llawer haws i'w ddwyn na'r tywyllwch angeuol hwnnw. Ac os, fel y mae yn ysgrifenedig, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw,' beth sy a'n hatal i gredu yn gyffelyb nad â golwg ei lygad yn unig y gwel dyn, eithr yn ddigonol i bob diben da trwy arweiniad a sylw rhagluniaeth Duw. Yn wir, ond iddo Ef edrych allan am danaf a darpar at fy eisiau, megys y gwna, gan fy nhywys gerfydd ei law tros fy holl fywyd, fe welir mae'n ewyllysgar, oherwydd mai felly y rhyngodd bodd iddo Ef, y rhoddais i i'm llygaid eu seibiant hir." Cyfansoddodd Milton ganig arall sydd megys yn dathlu pen- blwydd y drydedd o'i flynyddau tywyll. Cyflwynir hon i Cyriack Skinner. Amlyga feddwl penderfynnol y bardd, ei ymwybyddiaeth o'i wasanaeth cydwybodol gydag achos rhyddid, tra y dengys hefyd ei ymostyngiad duwiol i ewyllys ei Arglwydd. Dymunaf gael dy- fynnu hon eto Cyriack, this three years' day these eyes, though clear, To outward view, of blemish or of spot, Bereft of light, their seeing have forgot Nor to their idle orbs doth sight appear Of sun, or moon, or star, throughout the year, Or man, or woman. Yet I argue not Against Heaven's hand or will, nor bate a jot Of heart or hope, but still bear up and steer Right onward. What supports me, dost thou ask ? The conscience, friend, to have lost them overpli'd In Liberty's defence, my noble task, Of which all Europe rings from side to side. This thought might lead me through the world's vain mask Content, though blind, had I no better guide. Gadewch i ni ymdroi ychydig gyda'r pedair neu bum' llinell olaf o'r ganig hon. Dẁg y gair tasg-my noble task — ar gôf ddefnydd Milton o'r un gair yn y soned gyfansoddodd ar gyrraedd ei dair ar hugain oed. O'r braidd y ceir geiriau mwy adnabyddus yn holl weithiau Milton na'r ddwy linell sy'n terfynnu y ganig honno All is, if I have grace to use it so, As ever in my great Task-Master's eye.