Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MESUR ADDYSG Y LLYWODRAETH. A.m ragor nag un rheswm yr oedd y Llywodraeth bresennol o dan rwymau i ddwyn i mewn Fesur i ddiwygio Deddf Addysg 1902 fel un o'i mesurau cyntaf. Yr oedd felly, yn gyntaf oll, oherwydd ei bod, wrth ymofyn pleidleisiau, yn yr etholiad diweddaf, wedi ymrwymo i wneuthur hynny; ac yr oedd gorchfygiad y Ceidwadwyr ddechreu y flwyddyn yn galw arni, yn gyntaf dim, i gyflawni ei haddewidion. Heb law hynny, yr oedd Deddf 1902, ynddi ei hun, yn galw am fyned gam ymhellach. Pan orfodwyd yr holl deyrnas i gynnal yr holl ysgolion ar ei thraul ei hun, yr oedd hynny ar unwaith, ynddo ei hun, yn galw am i'r holl ysgolion fel eu gilydd gael eu rhoddi o dan reolaeth y cyhoedd. Rhybuddiasid y blaid Eglwysig, flynyddoedd yn ol, pan yn gofyn am i gynaliaeth yr ysgolion gael ei roddi yn gyfangwbl ar y trethi, gan yr Archesgob Temple, mai felly fyddai, ac nid yw yr hyn sydd yn cymeryd lle na mwy na llai na chyflawniad o ragwelediad yr archesgob. Un o ganonau cyntaf gwleidyddiaeth dda ydyw fod cynhaliaeth gyhoeddus yn galw am reoleiddiad cyhoeddus; ac mae hyd yn' nod y Ceidwadwyr eu hunain yn gorfod cydnabod hyn. I.-CYNNWYSIAD Y MESUR. Y mae darpariaethau y Mesur yn fanwl ac yn faith. Er hynny gellir symio y cwbl i fyny o dan ychydig o brif bennau. 1. "Ar, ac ar ol, y dydd cyntaf o lonawr, un fil naw cant ac wyth, ni chydnebyddir unrhyw ysgol fel ysgol elfennol gyhoeddus oni byddo yn ysgol wedi ei darparu gan yr awdurdod lleol." Dyma egwyddor sylfaenol y Mesur. Ar un ergyd y mae yn diddymu pob gwahaniaeth, yn yr ystyr o gynhaliaeth a llywodraeth- iad, rhwng ysgol ac ysgol, gan sefydlu un gyfundrefn genedlaethol o ysgolion. Yn bresonnol y mae rhan fawr o'r ysgolion-dros 14,000 -wedi eu hadeiladu naill a'i yn gyfangwbl neu mewn rhan gan gyfraniadau gwirfoddol. Os dewisa yr awdurdodau y mae yr ysgol- ion hyn yn awr yn eu meddiant eu trosglwyddo drosodd, naill a'i yn gyfangwbl neu mewn rhan, i'r awdurdod addysg lleol, gallant wneuthur hynny ar amodau a benderfynnir ganddynt, hyd yn nod mewn amgylchiadau ag y mae telerau eu hymddiriedaeth yn gwa- hardd hynny. Ac, os dewisa yr awdurdodau lleol dderbyn yr ysgol- dai hyn ar y telerau a gynnygir, gallant wneuthur hynny. Sylwer fod hyn oll yn gwbl oddefol. Nid oes dim rhaid i feddianwyr yr y^goldai eu trosglwyddo, os dewisant beidio, ac nid oes dim rhaid i'r