Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMUNDEB DUW A DYN. Dywedai Kant fod dau beth yn llanw ei fynwes â braw, y nef serennog uwchben a'r gyfraith foesol oddimewn. Mae pob meddwl ystyriol yn rhwym o deimlo yn gyffelyb. Wrth edrych ar y ser befriant yn yr eangderau, cawn ryw syniad am yr anherfynnol a'r aruchel, a synnir ni gan allu a doethineb y Creawdwr a'r Cynaliwr, a phan feddyliom am y gyfraith foesol oddimewn i ni teimlwn gyfrifol- deb dyn personol i Dduw personol. Llawenychwn yn y syniad fod Duw yn Fôd personol. Ceir rhai meddylwyr yn amheu hyn, gan ddadleu fod yn amhosibl i'r un Bôd gyfuno anfeidroldeb a phersonoliaeth, gan fod personoliaeth o anghen- rheidrwydd yn golygu terfynoldeb. Cwyd yr anhawsder oddi- wrth edrych ar bersonoliaeth ddynol, yr hon sydd yn derfynol i ryw raddau: ond credwn mai yn Nuw mae gwir bersonoliaeth fel gwir dadolaeth i'w gael ac mai efelychiad gwan o'r pethau hyn geir mewn dyn. Dywed Lotze yn briodol iawn mai nid y pethau o'r tu- allan i hunan y dyn sydd yn cyfansoddi yr Ego, ond eu bod hwy yn unig yn angenrheidiol mewn trefn i'w galw allan, a hynny oherwydd ein natur derfynnol ni, ac nid yn anwahanol gysylltiedig â phersonoliaeth. Gall dyn, i raddau, fod yn anibynnol ar y byd allanol. Mae y dynion goreu, a'r cymeriadau ddylanwadant fwyaf ar gymdeithas, yn rhai edrychant, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir. Tardd ein gofidiau pennaf ar un law, a'n hyfrydwch pennaf ar y llaw arall, nid oddiwrth wrthrychau yn y golwg, ond oddiwrth yr hyn sydd tu draw i'r llèn o'r golwg. Gall John Bunyan fod yng nghar- char Bedford o ran y corff, tra y meddwl yn ymlonni yn nhiroedd Beulah. Gall Paul a Silas fod yn rhydd ran eu meddyliau tra yng nghaethiwed y gell gyfyng, a gall Stephan, tra y mae cerrig celyd yr erlidwyr yn briwio ei gorff, fod, o ran ei ysbryd, o flaen yr orsedd, yn syllu ar Fab y Dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Mor bell ag y gallwn ni farnu personoliaeth ddwyfol, oddiwrth yr unrhyw mewn dyn, gwneir hyn i fyny o ddealldwriaeth, ewyllys, a serchiadau, ac yn Nuw y ceir y rhai hyn yn eu perffeithrwydd. Felly dywedwn, gyda Lotze, fod personoliaeth berffaith i'w gael yn unig yn Nuw," a chyda Moberly, Y Bôd goruchaf yn unig all gyrraedd y syniad Hawn a feddwn am bersonoliaeth. Nid yw y delfrydau hofrant tu- draw, ac uwchlaw profladau dynol, ond yn unig yn awgrymau, ac yn gyrhaeddiad mwy neu lai tuagat hynny." Nis gallwn feddu cyd- ymdeimlad o fath yn y byd å syniadau ysgrifenwyr o ysgol Herbert Spencer, y rhai a ddadleuant yn erbyn siarad am Dduw mewn termau dynol, ac a wrthodant alw yr achos cyntaf yn drugarog, yn ddoeth, neu yn dda; ac a wrthodant hefyd briodoli dealltwriaeth,