Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMYNNAU Y PARCH. RICHARD JONES O'R WERN. Pe buasai enwugrwydd R. Jones o'r Wern yn gorffwys yn unig ar y "Llyfr Humnau o'i waith a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1836, mae'n bur debyg na buasai ei enw a'i goffadwriaeth mor barchus ac adnabyddus ag y mae wedi bod er adeg ei farwolaeth yn 1833. A phe buasai enwogrwydd Williams Pantycelyn yn seiliedig ar ei ysgrifeniadau rhyddiaethol, ni buasai ei enw yntau mor ddyrchafedig ag y mae yng Nghymru heddyw. Enillodd Williams enwogrwydd anniflanedig trwy ei emynnau ond mae coffadwriaeth R. Jones yn gorffwys ar ei ysgrifeniadau rhyddieithol, yng nghyd â'i wasanaeth fel gweinidog i'r Cyfundeb Methodistaidd. Fel awdwr, bu iddo ran bwysig yn nadleuon diwinyddol yr amseroedd hynny; ac fe ysgrifennodd lawer byd i Seren Gomer, Goleuad Cymru, Drysorfa, &c, a chyhoeddodd Drych y Dadleuwr, gyda rhagymadrodd wedi ei arwyddo, Wern, Llanfrothen, Ionawr 24, 1828. Bu ymosod llym ar y llyfr hwn yn Lleuad yr Oes a'r Dysgedydd, a dywed Dr. Owen Thomas gyda golwg arno: Yn wir nid ydym yn gwybod i odid lyfr yng Nghymru erioed greu mwy o ryw fath o ddeffroad, heb fod mewn un modd y goreu ar deimladau dynion na Drych y Dadleuwr. Teithiodd lawer ar hyd a lled y wlad yn ystod y pymtheng mlynedd y bu yn y Wern, a bywyd ar y cyfrwy i raddau helaeth fu ei fywyd ef ac yr oedd yr hen gaseg a farchogai mewn rhyw bethau yn ddigon tebyg i'r marchogwr, yn araf a phwyllog, ac anhawdd iawn meddir fyddai ei chodi hyd yn oed i'r drot Fethodistaidd," a diameu iddo fyfyrio a chyfansoddi aml i emyn a'i draed yn y gwrth- aflau. Ym mysg yr ysgrifau a adawodd ar ei ol heb eu cyhoeddi, y mae llyfr ar Gyfryngdod Crist, ac esboniad ar y Beibl, hyd tua chanol y Salmau, a gwelais ddau rifyn o'r gwaith llafurus hwn wedi eu cyhoeddi. Silence," medd Wordsworth, is a privilage of the grave, a right of the departed," a dywed Tennyson nad yw yn ddoeth na chyfiawn i ymchwilio i hanes a chymeriad awdwr ym mhellach na'i ysgrifeniadau cyhoeddus. Ond mae hyn yn amheus, ac yn neillduol felly gyda golwg ar y beirdd er y dywedir fod yr oll o'r bardd yn ei ganiadau. Yr oedd R. Jones yn fardd, ac yr oedd mwy o feirdd yn perthyn i'r Methodistiaid y pryd hwnnw nag i un cyfundeb crefyddol arall yng Nghymru. Flynyddau yn ol," medd Caledfryn, « yr oedd Williams Pantycelyn Sion Lleyn John Humphreys, Caerwys T. Jones, Corwcn; Edward Jones, Maesyplwm T. Jones, Dinbych Pcdr