Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHRAWIAETH Y DIWYGIAD. Fe ddywedir fod pob Diwygiad Crefyddol yn foddion i ddod a rhyw wirionedd athrawiaethol i'r golwg, neu rhyw wedd newydd ar hen athrawiaeth. Dygwyd cyfiawnhad trwy ffydd i'r golwg trwy y Diwygiad Protestanaidd, tra mai ailenedigaeth ydoedd athraw- iaeth arbennig y Diwygiad Methodistaidd. Tybed a ydyw yn rhy fuan i ni ymofyn beth yw eiddo y Diwygiad sydd wedi ac yn cyn- hyrfu Cymru y misoedd diweddaf hyn ? Credwn nad yw. Ac mai gwaith yr Ysbryd Glàn ydyw. Nid Person yr Ysbryd Glân yn gymaint a'i waith. Addefwn yn rhwydd nad yw yr athrawiaeth hon wedi dod i'r golwg yn uniongyrchol, eithr yn anuniongyrchol, a hynny trwy y syniadau newyddion a gaiff dynion o berthynas i'r hyn all yr Ysbryd ei wneud yn a thrwy ddynion. Pan elo y Diwygiad hwn heibio fe gaiff yr athrawiaeth hon fwy o Ie nag a gawsai o'r blaen. Edrychwn i ddechreu ar safle yr athrawiaeth cyn y Diwygiad. Onid yw yn ffaith ei bod wedi ei hesgeuluso i raddau gormodol gan bob cangen o'r Eglwys Gristionogol ? Ar un llaw, yr oedd tôn gweinidogaeth yr Efengyl wedi myned yn llawer iawn rhy amwys. Yr oedd y pwlpud wedi rhoddi cymaint o'i fryd ar ysgolheigdod a galluoedd naturiol ar draul anwybyddu pethau pwysig eraill i'r fath raddau, nes yr oedd wedi cyfranogi i fesur o'r sefyllfa honno o feddwl ag sydd yn cyfodi o feddu a gallu gwybodaeth heb argyhoeddiad. Yr oedd pregethu yr Efengyl yn tueddu at fyned yn ormod o fine art, a'r pregethu cyfeiriadol ag sydd wedi bod mor effeithiol yng ngwahanol ganrifoedd Cristionogaeth wedi rhoddi lle i athronyddu cywrain ac elfennu gorfanwl, a'r Efengyl o'r herwydd yn cyflym golli gafael ar y wlad. Yr oedd y cyfan yn cyfodi o beidio rhoddi ei lle priodol i'r athrawiaeth hon. Ar y llaw arall, yr oedd aelodau yr eglwysi wedi colli golwg ar breswyliad yr Ysbryd Glân yn y rhai sydd yn credu, ac wedi myned i foddloni ar safon rhy isel gyda chrefydd; a'r eglwys, o ganlyniad, wedi myned yn ormod o gym- deithas fydol. Felly, yr oedd y mur rhwng yr eglwys a'r byd wedi myned yn rhy isel o lawer, a'r gwahaniaeth rhyngddynt bron wedi ei ddileu. Yr oedd yr eglwys wedi colli ei anrhydedd yng ngolwg y byd, a lliaws o ddynion moesol yn ein mysg yn ystyried eu hunain yn rhy dda i ddod i ymofyn am le yn nhý yr Arglwydd, ac enw ym mhlith ei bobl." A phan ystyriom hyn olí, nid rhyfedd fod cynifer yn ein mysg yn methu a deall y proffwydi sydd yn ein plith, pan ddywedont fod yr Ysbryd Glân yn siarad â hwy, a thrwyddynt hwy á'r eglwys.