Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EIN PLANT A PHETH I'W WNEUD OHONYNT. Nid yn unig ym Mhrydain, ond hefyd ar y Cyfandir, tynnir sylw at yr angen o helaethu ein cynllun o addysg ganolraddol, os ydym am fod i fyny â'r datblygiadau gweithfaol pwysig sydd yn myned ymlaen o'n cwmpas. Er fod masnach yn dilyn baner gwlad, eto, yn y dyddiau presennol--dyddiau y drws agored," nis gellir ei chadw gan yr un genedl, pa mor gryf bynnag y bo, os na fydd ei masnach- wyr a'i gweithwyr wedi eu cynysgaethu, yng ngwir ystyr y gair, â gwybodaeth gelfyddydol drwyadl. Felly, ar amser fel hwn, ymddengys i mi na fyddai ysgrif ar ddyfodol ein plant, ynghyd â'r anhawsterau sydd yn bod ynglyn â'r mater, allan 0 le. Yr ydym ni yng Nghymru, diolch i haelioni pob dosbarth, ym mhell ar y blaen i Loegr mewn perthynas i'n cynllun addysg, er fod digon o le i'w wella eto. Yr ydym, fodd bynnag, ym mhell ar ol Germani a'r Unol Dalaethau, cyn belled ag y mae a fynnom â defnyddio gwyddoniaeth at angenion diwydiannol. Mae y Cymry, fel yr Ysgotiaid, yn sylweddoli fwy bob dydd y ffaith nad oes yr un swydd nas gall dyn obeithio ei chyrraedd os bydd ganddo addysg a diwyd- rwydd. Mae ein hesgynfa addysgol yn barod i waith; ac nid oes ddim ar ffordd bachgen neu eneth ddiwyd rhag ennill rhoddion neu ysgoloriaethau mewn Ysgol Sirol a'i galluoga i fyned yn syth i'r Coleg. Ond nid yw pob bachgen neu eneth yn ddigon galluog at ennill ysgoloriaethau. Ac yn awr pan mae cymaint o rieni yn anfon eu plant i'r ysgol i wneud athrawon ohonynt, dylid cofio nad yw gallu i basio arholiadau yn ddigon ynddo ei hun i brofi gallu i addysgu. Mae y gwir athraw, fel y bardd, wedi ei eni. Nis gellir ei wneud, er fod addysg, wrth gwrs, wedi datblygu talent. A gosod o'r neilldu y llwybrau a'r agoriadau sydd yng Nghymru yn y gwahanol alwedigaethau, erys nifer fawr o blant y rhaid iddynt ennill eu bywoliaeth. Ar eu dyfodol hwy dibynna llwyddiant ein gwlad i raddau helaeth. Ac â'r dosbarth yma y bwriadaf ymwneud yn yr ysgrif hon. Oni feddylir yn rhy fynych os nad yw y plentyn wedi ei gynysg- aethu â gallu i fod yn athraw neu rywbeth o'r fath nad yw fawr wahaniaeth pa waith a roddir iddo ? Gwelir yn fynych duedd gref at chwilio am waith i blant-gwaith a ddug fwyaf o arian mewn ychydig o amser, heb feddwl yn ddifrifol am y cyfleusterau a ddyry