Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DANIEL OWEN. ADGOFION A MYFYRION AM DANO. CAFODD ein cyfaill ei fagu, fel y gwyr y rhan amlaf o ddarllenwyr y TRAETHODYDD, yn y Wyddgrug, ynghanol pobl a'u llond o humourt a difyr iawn oedd ei glywed yn disgrifio rhai o'r cymeríadau a adwaenai yn ei febyd. Ac y mae arnaf chwant i adrodd ychydig o'r straeon y byddai efe wrth ei fodd yn eu dweyd, nid yn gymaint er mwyn y straeon eu hunain, ond fel y gwelai y darllennydd y graig y naddwyd, a ^cheudod y ffos y cloddiwyd ef ohonynt." Tua thri- ugain mlynedd yn ol yr oedd yma yn y Wyddgrug ffactri gotwm, ac yr oedd ynddi lawer o bobl dlodion yn cael gwaith cyson, er nad oedd y cyflogau ond bychain. Ymysg y rhai oedd yn gweithio yno yr oedd yno bar o drigolion, y rhai oeddynt ddiblant, ac wedi cyr- raedd gwth o oedran. Un wythnos, yr oedd yr hen ddeuddyn diniwed wedi bod yn mwynhau eu hunain, neu, a dweyd y gwir, ar eu term. Nid oeddynt ysywaeth wedi dysgu rhagddarbod, ac nid oedd ganddynt ddim wrth gefn," fel y dywedir. Nid oeddynt yn rhyw dlodion iawn ychwaith, ond yn ceisio rhyw gripian ymlaen a thalu eu ffordd, canys yr oedd ganddynt gymaint a hynny o grefydd, Na fyddent yn nyled neb o ddim," a gwyn fyd na fuasai yn ein heglwysi yn yr oes oleu hon fwy o ddynion a chrefydd o'r un sort ganddynt. Fodd bynnag am hynny, yn hwyr y nos Sadwrn yr wythnos honno, eisteddai yr hen ddeuddyn yn bur ddywed-wst, un bob ochr i'r lle tân, gan edrych ar eu gilydd a'u dannedd yn rhedeg. O'r diwedd, a chan na fedrai ddal ddim yn hwy, dyna yr hen wraig yn tynnu ei hanadl ati ac yn ocheneidio, gan dorri allan mewn llais crynedig a dweyd O dear Tomas bach, fe leiciwn i taswn i yn y nefoedd." Edrychai Tomas arni, heb godi ei wyneb, ond a'i lygaid tan ei aeliau, a dywedyd Hy, fe leiciwn innau taswn i yn y dafarn a chwart o gwrw o 'mlaen." I hyn atebai hithau O'r hen greadur barus wyt ti'n gwbod yn wastad lle mae'r lle goreu, on'd wyt ti ?