Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sef GARLANT o FRITH-GANEUON AR DDYRUS Lwybrau BYWYD. Life like a dome of many-coloured glass Cynnwys. -Dwfn ddyheuadau'r galon—Ceinion yr Haf—Breuddwydion serch—Y ddewis-fun-Rhyfedd weithredoedd cariad—Cân i Oleuddydd—Priodas. GOLEUDDYDD, Stains the white radiance of eternity. Shelley, CANIAD II. CARIAD. Fel gwyryf deg yn dod i'w chyflawn oed, Y Gwanwyn ir a ddaeth yn dyner Haf A'r durtur fwyn a glywir yn y coed Yn galw'r glomen at ei chymar claf A'm calon innau'n serch-ddolurus sy' Am nad oes ar fy rhan gariadferch gu. Mae'r wylaidd lili yn ei gwenwisg lân Yn dangos im' fod purdeb fyth yn hardd A'r rhosyn balch, a'i hon yn allor dân, 0 lawnder serch sy'n perarogli'r ardd O na chawn innau, decaf lili lon, Fel rhosyn tirf ymorffwys ar dy fron. Mae'r lyfndeg afon gyda'i melus gwyn Yn ymddolennu'n araf drwy y ddol Am ennyd câr ymgolli yn neildy llwyn, Ac wed'yn myn ymlusgo yn ei hol Ond myned y mae hithau ar ei hynt, Yn esmwyth fel y dedwydd ddyddiau gynt. O'r glasdwf îr y mirain flodau mán Amneidiant ar urddasol deyrn y dydd, A'r helyg blygant dros eu gliniau glân I ddweyd eu chwedlau wrth yr afon rydd Fe ffy y dail a'r blodau gyda'r lli Yn fnan fel fy hafaidd oriau i. Tra treigla'r loyw afon tua'r aig, Mi chwiliaf am y fro lle rhed i lawr Yn ffrydlif fach o ystlys lom y graig Dros uthrol greig y tawel fynydd mawr Caf yno gymdeithasu gyda Duw, A holi ble mae tarddell popeth byw. Beth yw yr anesmwythyd dan fy mron? Er ceisio nid yw cysur byth yn dod Mor ber y lleisia pob aderyn llon, A minnau'n gofyn pam yr wyf yn bod Ehedodd pob dedwyddwch, hwyl, a hoen, Ac nid yw bywyd im' ond byd o boen.