Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddaear ? Eglurheir y ffydd ofynol mewn gweddi yng ngweddi y Publican. Cynnwysa ymostyngiad y pechadur, fel y pechadur a'r pechadur pennaf, gerbron Duw, ac ymorffwysiad hollol ar drugaredd Duw ar sail iawn. Y mae hyn oll yn cael ei gynnwys yn y weddi, 0 Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur." Bellach yr ydym yn dyfod at y weddi fawr yn yr ail ar bymtheg o loan. Dwy flynedd yn ol gwnaeth y Parch. Iorwerth Jones, Maesteg, gyhoeddi cyfrol o bregethau galluog a gofalus ar y testyn hwn. Ac y mae y gwaith ym mhob modd yn deilwng i'w gymharu â phregethau llafurfawr a dyhysbyddol y Dr. Thomas Manton ar yr un testyn, ond yn llawer mwy crynno a hylaw. Gellir dosbarthu y weddi fawr offrymwyd gan yr Iesu y nos y bradychwyd Ef yn chwech o rannau. Ym mhob rhan y mae cyfarchiad (invocation), a deisyfiad (petition), a dadl (piea). Dyma gyfarchiadau y weddi: Y Tad," O Dad," Y Tad sancteiddiol," Y Tad," Y Tad," Y Tad cyfiawn." Hoff enw, Gwrthrych addoliad a Gwrandawr Gweddi yng ngenau ac yng ngweddiau yr Iesu ydoedd Tad." Felly ar tan bedd Lazarus, yn y deml, teirgwaith yn yr ardd, a dwywaith ar y groes. A dyma'r cyfarchiad osodir yn y cynllun weddi, Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd." Eithr mewn un man ychwanega yr Iesu, Arglwydd nef a daear." Unwaith Efe a ddywedodd, Fy Nuw, fy Nuw yn nyfnder ei ing, yn yfed gwaelodion y cwpan. Ac y mae yn gosod "O Dduw" yng ngweddi y Publican. Y deisyfiadau ydynt: Gogonedda dy Fab gogonedda di fyfi gyda thi dy hun â'r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd cadw hwynt trwy dy enw y rhai a roddaist i mi yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, y byddont hwythau gyda mi y byddont oll yn un ac y byddo y cariad a'r hwn y ceraist fi ynddynt hwy, a minnau ynddynt." Ac y mae cymaint cyfoeth o ddadl dros y ceisiadau hyn fel nas gellir hyd yn nod ei amlinellu. Gweddi fawr gyfoethog mewn gwirionedd ydyw hon. Dyma weddi yr Arglwydd. Gweddi'r disgyblion ydyw yr hyn a elwir yn gyffredin yn Weddi yr Arglwydd. Priodol hefyd y gelwir gweddi yr oruwch-ystafell y weddi eiriolaethol. Mae yn ddangosiad o'r hyn yw eiriolaeth Crist drosom yn y nefoedd, lle y mae yn byw bob amser i eiriol drosom. Mae yn amlwg i weddiau lesu Grist adael argraff ddofn ar feddyliau ei ddisgyblion. Yr oeddynt yn eu cofio yn dda. Ac y mae eu delw i'w gweled ar weddiau yr Apostolion a'r Epistolau. Fel cynnorthwy pellach i'r cfrydiaeth o'r testyn hwn, yr ydym yn galw sylw ein darllenwyr at gyfrol fechan, werthfawr iawn, gan y diweddar Dr. C. J. Vaughan, The Prayers of Jesus Clirist. London: MacMillan & Co., 1891. Pembrohe Dock. Willia.m E\'ANS.