Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwaed Cymreig yng ngwythienau y llaw a arwyddodd Gyhoeddiad Anibyniaeth y wlad a'i hysgariad oddiwrth Brydain yn 1776. Nid yw enwau y Cymry yn amlwg yn rhestr ei miliwnyddion, ond ceir hwynt yn britho rhestrau sydd o anrhaethol fwy o werth i fywyd goreu y wlad. Ceir llawer o blant y Cymry yn y weinidogaeth gyda Saeson, yn llenwi cadeiriau proffeswrol yn y colegau, yn gweinyddu y gyfraith yn y llysoedd, yn addurno yr alwedigaeth feddygol, yn disgleirio yn y seneddau talaethol, ac mewn llawer o swyddi a galwedigaethau eraill. Ceir llawer eraill o rai nid anenwog wedi glynu wrth eu cenedl a'u hiaith eu hunain, ac wedi bod o wasanaeth mawr iddynt mewn gwahanol gyfeiriadau. Cyhoeddant newyddiadur trwyadl Gymreig o ran ysbryd ac iaith, a pherthyn i'r dosbarth cyntaf o ran safon lenyddol, yn ogystal ag fel cyfrwng lledaeniad newyddion am ddigwyddiadau ymhlith Cymry y gwahanol sefyd- liadau. Ceir hefyd gylchgronnau perthynol i rai o'r enwadau crefyddol, a chyflawna y rhai hynny wasanaeth gwerthfawr, yn arbennig trwy roddi ar gof a chadw hanes ymdrechion clodwiw yr hen sefydlwyr, a hynny gyda'r ddau fyd. Nid anfynych drachefn y cyhoeddir llyfrau da a buddiol gan y wasg Gymreig yno, yn arbennig cofiantau ac un o'r cyfryw sy'n dod dan ein sylw yn awr. Teimlwn yn dra diolchgar i Dr. Roberts am ei lafur i gadw yn wyrdd ac yn fendigedig goffadwriaeth gwr a wnaeth gymaint i'n cydgenedl yr ochr draw i'r Werydd. Teimlwn hefyd y byddai yn golled i'n cenedl yr ochr hon i'r cefnfor fod heb ei adnabod neu mewn perygl o'i anghofio, o ddiffyg galw sylw cyhoeddus at ei gofiant. Dichon y bydd ymgydnabyddu â chymaint o'i hanes ag a ellir grynhoi i gylch erthygl fel hon yn ysbrydoliaeth ac yn nerth i ryw- rai, ac yn achlysur i eraill fyned i lygad y ffynnon a phwrcasu ei Gofiant a'i Bregethau iddynt eu hunain. Nid i ychydig yn ddiau y mae ei hanes yn ei wahanol gysylltiadau yn fuddiol. Ysgrifennwyd ei gofiant yn ddarllenadwy a blasus. Ymgadwyd yn rhagorol o fewn terfynau; gwelir yma brofion o serch cryf a pharch dwfn yr awdwr i'r gwrthddrych, ond nid oes dim yn cael ei orliwio. Ni arferwyd gormodiaith afradus wrth arlinellu unrhyw ragoriaeth. Ysgrifenwyd yr hanes yn syml, yn fyrr a chynnwys- fawr, yn fantolus, heb ry nac eisieu." Mae y ffeithiau hefyd yn gywir a safadwy, oblegyd yr oedd y gwrthddrych wedi ysgrifennu hunangofiant am ddyddiau ei febyd, ac wedi arfer cofnodi prif ddigwyddiadau ei fywyd, ac adrodd ei brofiad beunyddiol mewn dyddlyfrau, y rhai oeddynt at wasanaeth y cofiantydd. Carasem fod yma ragor o fanylion ynghylch rhai pethau, yn arbennig ynglyn â chyhoeddi y Lamp; ond dichon mai gwyleidd-dra yr awdwr sydd yn cyfrif am hyn, gan ei fod ef yn gydolygydd i'r cyhoeddiad bychan rhagorol hwnnw a dorwyd yn gynhar. Dichon iddo hefyd gwtogi y