Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NATUR AC EWYLLYS DUW. A ELLI di wrth ch.wilio gael gafael ar Dduw ? A elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd V Na elli hyd berfeithrwydd. Ond gall dyn feddu gwir wybodaeth am Dduw, er na fydd yn gyf- lawn ac yn berffaith. Cychwynwn yn y fan hyn, ac edrychwn ar y darnodiad o Dduw fel yr Anwybodedig a'r Anwybodadwy," fel un o gyfeiliornadau pennaf yr oes. Gwybodaeth o Dduw yw yr ttwchaf a'r bennaf o bob gwybodaeth, a'r agoriad i bob gwybodaeth arall. "Yn dy oleuui di y gwelwn oleuni." Gallwn wybod am Dduw mewn rhan trwy ein rheswm a'n hymwybyddiaeth, a thrwy oleuni natur ond yn ei Air y cawn y wybodaeth lawnaf ohono. Ystyriwn y dadguddiad o Dduw yn y Mab yn gyflawn a pher- ffaith ond pell ydym o awgrymu fod y dynion dysgedicaf a goreu wedi llwyddo i gael allan yn llawn gynnwys y dadguddiad arbennig o Dduw yn y Mab. Er hynny, ni fu eu llafur yn ofer. Erys eu gweithiau yn gof-golofnau clodfawr i'w hymdrech a'u cymeriad oesau y ddaear. Eraill a lafuriasant, a ninnau a aethom i mewn i'w llafur hwynt. Yn hyn o ysgrif ni amcenir traethu mewn trefn ar natur, hanfod, cymeriad, priodoleddau, ac ewyllys Duw, fel y gwneir mewn llyfrau, ond nodwn yn fyrr ychydig bethau ar Natur ac Ewyllys Duw, ac ar eu perthynas â'u gilydd. 1. Ysbryd YW Duw·.-Golyga hyn mai natur ysbrydol yw natur Duw. Ysbryd yw Duw a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd." Golyga hyn, mewn ystyr nacaol, nad oes dim materol yn perthyn i natur a hanfod Duw. Duw a ddygodd y cread i fodolaeth o adnoddau oedd yn dragwyddol ynddo ei hun; ac eto, dysgir ni gan Iesu Grist nad oes un elfen faterol yn perthyn hanfod Duw. Ysbryd pur, anfeidrol, anghyfnewid- iol yw Duw, a'i hanfod ynddo ei hun. Mae Duw, nid yn unig yn awdwr natur, ond mewn natur yn barhaus, ond nid yw natur yn ei gynnwys nac yn rhan o hono. Dylid cadw hyn mewn eof yn yr oes hon-oes, yn yr hon y cafwyd mwy o oleuni ar natur, yn ei deddfau, ei hadnoddau, a'i hegni, nag a gafwyd yn flaenorol yn holl oesau y byd. Ond nid yw natur, er ei bod yn ymylu ar y diderfyn, yn ddigon .mawr i gynnwys Duw, ac nid yw, er ei holl ogoniant, yn rhan hanfodol o hono. Ysbryd yw Duw, yr hyn a ddysga ei fod yn Berson, a chynwysa hyn ddeall, cariad, ac ewyllys, a gallant fodoli yn dragwyddol ar wahan i'r 'byd materol, er mai Duw yw ei awdwr. 2. Cariad yw Duw yn ei NATUR.—" Duw, cariad yw." Ystyrrir y darnodiad hwn o Dduw, gan lawer o brif dduwinyddion yroes, y pennaf o fewn y Beibl. Edrychir ar gariad fel priodoledd