Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMNEILLDUAETH A'R MESUR ADDYSG. Naturiol a dyddorol i ieuenctyd Cymru yw taflu eu golwg o'r amser y dadgysylltodd ein tadau crefyddol eu hunain oddiwrth y fam eglwys yn nechreu y ganrif o'r blaen i'r dyddiau presennol pan y mae yr Eglwysi Rhyddion, yn anterth eu nerth, wedi cysylltu aelod wrth aelod o'r genedl o blaid rhyddid crefyddol, ac yn wir wedi ymestyn eu dylanwad drosGlawddOffa ac wedi cynorthwyo i ennill i'rDeyrnas, Pesur Addysg Grefyddol ag sydd yn gosod sylfaen digon eang ar ba un y gellir cyfuno barn gwlad a barn bersonol, barn teyrnas a barn y sectau, ac wedi cael i Gymru hawl i drefnu ei haddysg ei hun. Y mae Cymru wedi teithio ym mhell o'r amser pan y dechreuodd Methodistiaeth mewn ofn a dychryn hyd heddyw pan y britha fechgyn y Capelau lobby Ty y Cyffredin. Ymddengys mai cyndyn iawn oedd y Methodistiaid, ar y dechreu, yn arbennig, i ymadael a'r fam eglwys. Unwaith ac eilwaith y myn- asent iddi gasglu ei phlant ynghyd fel y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd. Hwyrfrydig iawn oeddynt, ar y cyntaf, i adeiladu capelau ac ni fynnid son am flynyddau am i neb ond rhai yn meddu urddau yr hen fam i weinyddu ordinhadau crefydd. Yn hen eglwys y plwyf yr oedd calonnau y tadau Methodistaidd am amser maith a pha ryfedd ? Eglwys y llan oedd canolbwynt bywyd ysbrydol y genedl wedi bod er's canrifoedd, er fod difrifwch crefyddol wedi ei golli am amser y pryd hwn. Trwy eglwys y llan yr oedd Cristion- ogaeth, er cyn cof, wedi ymarllwys i'r wlad. Trwyddi hi hefyd y daeth Paganiaeth a Phabyddiaeth yn gymysg o'r ffrwd nefol. Paint bynnag o ddrwg a wnaeth, ymwridai ei daioni a'i rhagoriaethau i'r golwg pan y meddylid am ymwahanu a hi. Onid hi fu'n plethu modrwy euraidd o ddefod grefyddol o amgylch digwyddiad mwyaf pwysig a sanctaidd eu bywyd-eu priodas ? Yno y bedyddiwyd y plant, ie, y tadau a'r mamau, y teidiau a'r neiniau, cyn cof. O'i chwmpas hi yr oedd gwenol amser wedi gweu holl foreu eu hoes. Ac onid yno yr huna Gwen, a ddaeth ac a giliodd megis breuddwyd ? Yno y gorwedd Owain a'i fam. At y llu mawr o hen Gymry oedd wedi eu casglu yno, cludid yno gymydog a chydnabod yn awr ac yn yYnan. Hebryngid ef yno ond nid ym mhellach. Eglwys y llan oedd porth daearol y byd a ddaw i'n tadau. Dysgasid hwy am ganrifoedd fod y ddaear fan honno yn gysegredig. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd anadliad ddistaw hûn y marw yn taflu rhyw ymneillduaeth ryfedd dros laswellt y llan. Yma yr oedd y byd anweledig megis yn wetadwy--ryw reminder o'r hyn oedd y tu hwnt i'r llen. Yn eglwys y llan yr arferid er's canrifoedd nesau at Dduw. Y tu allan pethau