Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU A 'SGRIFENWYD AT HUGH AP HUGH O LWYDIARTH BSGOB, GAN JOHN THOMAS." Anwyl Gyfaill:- Y mae gormodd o Le i achwyn arnaf am anniolchgarwch am Gymmwynasau a aethant heibio, ac hefyd o Dorr-addewid — Beiau anafus mewn Eglwyswr Mi addewais yrru y Llyfran hwn i chwi y* Medi, ac wele yn awr agos yr hanner Tachwedd gwedi darfod, ond yn rhodd esgusodwch y Diweddarwch hwn, yn wir nid angof na diysdyrwch oedd; ond fy mod i oddiar y ffordd pan fyddai Cyfleusdra un ai yn yr Ysgol, neu ynte 'n Llandegai. Chwi welwch fod dau beth neu dri ynddo heblaw Hanes Teulu Gwydir, a allant roddi ychydig Ddywenydd i chwi ar hirnos trymllyd yr amser hwn, onid ydynt ganddoch eisoes; ac os ydynt Cymmerwch yr Ewyllys yn lle'r gallu. Nid anhebig a fyddaf pan ollyngom y Cywion o'r Nyth; i rodio peth o Wlad Fon, ac os caf Odfa, i ymweled a phrif goleddwr yr laith Gymraeg yn ei Fro ei hun. Ond y mae gennym ni o Arfon Wr a elwid Rowland Jones o Fachellyn, Esqr., Gwr o Gyfraith o Lincoln's Inn a roddes allan Lyfr y dydd arall ynghylch Hynafiaeth ein laith a'n Hanes, ac y sydd goruwch pob ysgrifen Celteg na Phezron na Llwyd, ie na Rowlands ychwaith: y mae nid yn unig y Groeg a'r Lladin ond yr Hebraeg hefyd yn tarddu o Pamiaith y Gomeriaid o hit y Dryw Japheth (fal y geilw efe ef) oni welwch hwn ni wyddoch ddim, nid ydym ond ymbalfalu mewn anwybodaeth, hyd oni ddaeth hwn allan i beri i bobl chwerthin. Wele hai Lle y caffo y Cymro y cais." A fedrwch roddi i mi ryw dro neu gilydd Hanes Conings by Williams o Benmynydd, pwy oedd, a pha fodd y meddiannodd y Dreftadaeth honno ? Yr ydwyf yn awr yn prysur gopïo Extent Sir Fon a wnaed yn amser Edward y Trydydd, ac fellu rhag eich syfrdanu a'm Llythyr penchwiban, gan ddymmuno Iechyd a Llwyddiant i chwi y terfyna Anwyl Gyfaill Wele, dyma finnau wedi dyfod o'r diwedd i'm Carchardy ar ol crwydro dros Fis y' Mon, ac Arton, a holl Wynedd agos drosti ond Sir Drefaldwyn, ac nid allaf ddywedyd amgen na fum i yn lled anllwyddianus, gan na ddigwyddodd imi wybod eich bod chwi y' Mhlwy Caergybi pan oeddwn innau yno; ac na welswn Ieuan Fardd; myfl a wclais amryw o'm hên Gyfeillion yn Rhydychen, wedi LLYTHYRAU LLENORION. I. Bangor, Tachwedd 12, 1764, Eich rhwymedig Was'neuthwr, JOHN Thomas. Bangor, Mehefin 7ed, 1766.