Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SECIWLARIAETH. Nid gair Cymraeg mo hwn. Nage, na Saesneg chwaith, nac un aeg arall, o ran hynny. Bwriedir ef i sefyll yng Nghymraeg am y gair lladin secularis = bydol (yn yr ystyr o oesol), perthynol i'r oes saeculum = cenhedlaeth, oes Ffrancaeg, séculaire Ysbaenaeg a Phortugeaeg, secular Italaeg, secolare. Fel hyn gwelir fod y gair, bron yn yr un swn ac yn yr un ffurf, yn yr holl ieithoedd hyn, ac yn golygu yr un peth, sef byd, yn yr ystyr o oes. Arferir ef hefyd ar lafar gwlad yn ddibaid y dyddiau hyn yng Nghymru, a phaham na chaiff ei fabwysiadu fel priod-air ? Y pwnc mawr ar hynny ydyw bod yn sicr am y peth a olygir ganddo. Defnyddir ef weithiau fel Ansodd-air. Mewn ystyr gyff- redin golyga yr hyn a berthyn i'r byd hwn, neu yr oes, mewn cyferbyniad i bethau ysbrydol a chysegredig. Mewn ystyr eglwysig golyga bethau heb gael eu rhwymo gan ddiofrydau neu reolau mynachaidd heb gael eu cyfyngu i fynachlog, neu yn ddaros- tynedig i unrhyw gymdeithas grefyddol nid yn rheolaidd, ond yn fydol = secular. Felly gelwir yr offeiriaid cyffredin yn offeiriaid seciwlaraidd. Fel Enw golyga un heb fod mewn urddau sanctaidd, lleygwr offeiriad heb gael ei rwymo gan reolau mynachaidd; neu swyddog eglwysig y mae ei waith yn gyfyngedig i ganiadaeth neu y Côr. Yn hanesyddol enw ydyw y gair a roddwyd gan y diweddar Mr. George Jacob Holyoalce, oddeutu y flwyddyn 1846, ar gyfundrefn o addysg foesol seiliedig ar foesoldeb naturiol. Dyma ei eiriau Seciwlariaeth ydyw yr hyn sydd yn ymgais am ddadblygiad anian- yddol, moesol a deallol natur dyn i'r pwynt uchaf sydd yn ddichon- adwy fel dyledswydd uniongyrchol bywyd—yr hyn sydd yn dal allan ddigonolrwydd ymarferol moesoldeb naturiol, ar wahân i Atheistiaeth, Deistiaeth, neu'r Bibl-yr hyn sydd yn mabwysiadu fel ei gynllun o weithredu cefnogi dyrchafiad y natur ddynol trwy foddion materol, ac sydd yn cynnyg cydsyniad pendant yn y pethau hyn fel rhwymyn cymdeithas i bawb a ddymunont reoleiddio bywyd gan reswm a'i addurno gan wasanaeth." — G. J. Holyoakc, Principles of Secularism (ed. 1850), p. 17. Dyma yr hyn y dadleua llawer dros ei osod i lawr fel sylfaen cyfundrefn o Addysg Genedlaethol, mewn cyferbyniad i unrhyw gyfundrefn grefyddol neu Fiblaidd. Haerant fod pawb yn cydsynio ar y sylfaen hon, crefyddol a digrefydd; tra nad yw y rhai a gydsyniant â'r sylfaen hon yn cydsynio o gwbl a'r rhai a osodant grefydd i lawr fel sylfaen ac yn enwedig tra y mae y rhai a osodant