Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YMWELIAD A GWLAD YR AIPHT. Yr oedd y wawr yn dechreu torri pan gefais yr olwg gyntaf ar wlad yr Aipht. Yr oeddwn ar fwrdd y llong Cleopatra, tua phump o'r gloch yn y boreu, yng nghanol y gauaf. Dihunais gan y teimlad fod popeth oddiamgylch yn myned yn ddistaw, y llong yn arafu, ac o'r diwedd yn sefyll. Yr oeddwn ar fy nhraed ar unwaith, ac ar fwrdd y llong yn gynt nag arfer. O fy mlaen gwelwn y dydd yn gwawrio ar borthladd Alexandria. Ac yn raddol, fel yr oedd yr haul yn esgyn, daeth Alexandria ei hun i'r golwg. Cyffyrddodd y pelydrau cyntaf â'r hen ddinas, â'i thyrau, â'i tai goleu, â'i choed palmwydd, ac â'i phobl o bob lliw, nes gwneud yr olygfa i mi yn fythgofiadwy. Ond ymddangosai yn union fel yr oeddwn yn disgwyl. Mewn meddwl, megys, bu'm yno lawer gwaith o'r blaen. Yr oedd y dwyrain, yn lle bod yn ddieithr, yn gyfarwydd iawn, bron yn gartrefol. Yr oedd yn naw o'r gloch arnom yn glanio. Ar y tŵr gyferbyn â mi, canfyddwn faner y Sultan yn chwifio mor urddasol a phe buasai i fyw byth. Arwyddai'r faner honno ein bod yn awr dan lywodraeth y Sultan ac is-lywodraeth y Khedive. Ychydig o ffordd ymlaen, yr oedd tŵr arall a baner arall. Erbyn edrych, baner Prydain oedd honno arwydd fod gan ein gwlad ninnau rywbeth i'w ddywedyd ynghylch llywodraeth yr Aipht heddyw. Daw diwrnod, efallai, pan na welir ond un faner ar dyrau Alexandria. Ond nid yw'r adeg honno yn awr. ALEXANDRIA. Yr oedd ein traed erbyn hyn yn sangu ar heolydd yr hen ddinas. Pe buasem yn gwrando ar yr Aiphtiaid, buasem yn eu sangu hyd heddyw. Yno, meddent hwy, yr oedd pethau rhyfeddaf y byd wedi eu casglu a hwy yn unig allai eu dangos i ni. Y pechod anfaddeuol oedd myned heibio iddynt; ni fyddai bywyd yn werth ei fyw ar ol hynny. Ac felly ymlaen yn ddidor. Ond rhaid oedd i ni fentro ar fywyd heb eu gweled. Wedi'r cwbl, nid y pethau hyn sydd yn gwneud i fyny'r dwyrain. Y prif beth gennym ni oedd y ffaith mai hon oedd y dref a sylfaenodd Alexander; mai hon oedd y dref lle yr oedd Euclid a Theocritus a Callimachus yn byw; lle bu Marc yn weinidog cyntaf ar yr Eglwys Gristionogol, ac ar ben ei weinidog- aeth, lle cafodd ei anrhydeddu, nid âg anrhydedd y byd, ond trwy