Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLEUDDYDD, Sef GARLANT 0 Frith-ganeuon AR DDYRUS LWYBRAU BYwYD. Life like a dome of many-coloured glass Stains the white radiance of eternity. ShtlUy. CANIAD III. ADFYD. CYNNWYS.—Tristwch Hydrtf—Hiraethgan am fy mhlentyn—Gweddi—Marwolaeth Geleuddydd—Cri anobaith-Ymddiried yn Nuw. O Hydref hir dy lef, mae'th olwg brudd Yn ennyn dan fy mron ryw hiraeth cudd Am y mwynderau brofais pan oedd Haf Fel ail baradwys heb flodeuyn claf. Mor delaid yw dy ddail, ond O mor wyw, Yn chwennych marw, ac eto'n mynnu byw Nid yw y gwawl symudliw ar dy wedd Ond gwrid y foch sy'n addfed am y bedd. Wrth draed y wig mae llawer deilen grin Fu'n iraidd iawn ei thwf dan hafaidd hin Ond clywodd lais y storm o'r gogledd draw, A threngu wnaeth cyn dyfod gwynt a gwlaw. A thyma ddeilen fechan hanner gwyw Yn sibrwd fod ei chalon eto'n fyw Ond dwed y rhuddaur ar ei hymyl gwan Fod angeu yn ei haros yn y man. Yr haul nid yw'n pelydru yn y nen, Ni chlywir cân aderyn ar y pren Wrth wrando'th dôn gwynfannus yn y llwyn Mae wylo ar fy nghalon er dy fwyn. Pa le mae'r blodau gyda'u lliwiau hardd A'u harogl per—cymdeithion hoff y bardd ? Ai marw wnaethant hwy heb adael un Ar fryn na dM i ysbrydoli dyn ? Neu ynte tyfu yn fwy hardd o hyd Y maent yn hinsawdd well dedwyddach fyd ? Flodeuant eilwaith yn y nefol wlad I swyno engyl efo'u gwenau mad ? Na ymaith, ymaith. O ddychymyg ffol, 'Does dim o geudod angeu'n dod yn ol Marw a marw welaf ar bob tu, A rhopeth i ddifancoll diddim ffy. Ond yma am ryw ennyd byrr yn hwy, O Hydref, rhaid it' aros dan dy glwy Ac yna daw marwolaeth dros dy wedd, A thithau gei ymorffwys yn y bedd.