Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADGOFION A MYFYRION am DANO. Nid oes angen i mi ddweyd fod Daniel Owen yn fardd, a bod ynddo y galon a feiddiai gydymdeimlo âg anian. Yr oedd hyn yn enwedig ganddo, ac er byddai ganddo fel rheol, reolaeth agos yn berffaith ar iaith, er hyn oll gwelais adegau arno "pryd bydda'i enau yn rhy fud i ddwedyd dim ac nis anghofiaf byth y noswaith honnö y bu yn ysgrifennu am farwolaeth Seth, pryd y bu yn llefain fel plentyn am dros awr o amser heb fedru dweyd nac ysgrifennu gair, a chwedyn pan yn medru, yn ysgrifennu megys â gwaed ei galon. Noson ryfedd oedd honno, a dyna y pryd y deuais i wybod beth oedd cynnwys atebiad Ebenezer Morris i wr a ofynai iddo sut y daeth i rtoleiddio ei lais fel y gallai roi yr oslef a fynnai ynddo. O," meddai yntau, nid ar chwareu bach y dysgais i hynna." Felly, nid ar chwareu bach y dysgodd Daniel Owen ysgrifennu, mwy nag y dysgodd Ebenezer Morris i waeddi y pethau a rwygai eu calonnau. Canys yr oedd effaith gwaith y ddau yn ddwfn a pharhaol, ac y mae yn rhaid i'r hwn a fynnai gynyrchu y fath effeithiau fyned ei hutan dan yr un oruchwyliaeth. Un wedi teimlo yn ddwys ydoedd ein cyfaill, ac yn medru cydymdeimlo âg eraill pan mewn cyfyngder, ac an hynny yn gwybod beth fyddai yn archolli yn gystal ac yn îachtu. Hwyrach mai yn ei alarebau y byddai ein cyfaill yn cyffwrdd â llinellau dyfnaf ein natur, ac yr oedd ganddo fedr neill- tuol ihyn, fel y dengys ei alargan i'r diweddar Barch. John Evans, Croes*swallt, cyn hynny o Garston, un a edmygai ac a hoffai yn fawr, a: un a fu yn gydefrydwr âg ef yn y Bala. Mae honno yn un beniganp. Gellir dywedyd yr un peth am un a ganodd yn niwedd 1879 i'rdiweddar Mr. Benjamin Powell, y Wyddgrug, gwr a barchai hyd yr ètha, ac a garai hefyd gymaint ag a barchai. Adwaenai Mr. Powell ei yn fachgen, ac yr oedd yn gwybod am ei ffaeleddau, ond gwelai gyla hynny fod hyd yn nod ei ffaeleddau yn codi o ddidwyll- edd ac o «nplygrwydd y dorraeth o natur dda a feddiannai. Nis gallai Mr. Powell gynllunio drwg am neb, a phe buasai y drych- feddwl am gynllunio y fath beth wedi taro ar draws ei feddwl rywbryd, bu\sai yn amhosibl iddo i'w gario i weithrediad, oherwydd buasai sercl\>grwydd ei natur yn ei orthrechu. Efe ydoedd y gwreiddiol ne\ y cynllun o Mr. Pugh a ddisgrifir gan ein cyfaill yn y Dreflan, lle^ gwelir y portread a dynwyd gan Daniel Owen ohono. Yr oedd yn y\ignawdoliad o ddiniweidrwydd y golomen, ond heb ddim iot o gyfryystra y sarff. Aeth Mr. Powell i gynhebrwng y Parch. John Dyies, Nerquis, tua'r wythnos gyntaf ym Mawrth, DANIEL OWEN.