Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIARHEBION Y WYDDELEG. WELE gasgliad bychan o rai o ddiarhebion y Wyddeleg. Trois hwy i'r Gymraeg er ys peth amser yn ol, er difyrrwch i mi fy hun. Meddyliais wed'yn y gallent fod o ddiddanwch i rywun heblaw fy hunan pe baent mewn print, a threfnais hwy fel y gwelir yma. Sylwer fod rhai ohonynt yn bur debyg i'n diarhebion ninnau. Rhoddais ambell i ddihareb Gymraeg ar ol y cyfieithad cyfatebol, fel y deuai i'm cof. Lle bo bai, maddeuer; nid wyf eto ond plentyn yn y Wyddeleg. Ami y tyrr dyn wialen i'w guro ei hun. Bydd marw y march tra fo'r borfa'n tyfu. (Yn y Myfyrian ceir '•"Tra fo'r borfa'n tyfu y bydd marw'r march "). Bydd blas ar ychydig. Byw fydd y gangen ar y gwrych, ac ni fydd byw y llaw a'i plannodd. Bydd cyrn mawr ar y gwartheg y tu draw i'r môr. Bydd cerrig llyfnion yn nhai pendefigion Bychan yw'r peth sy'n fwy parhaol na dyn. Bydd teulu dipyn yn fwy gan y dryw na chan y gigfran. Byrr amser fydd y mynn yn waeth na'r hen afr (moch dysg nawf mab hwyad). Cadw yn y gist ef, a chei waith oddiwrtho. Carn mawr ar y ceffyl bach. Cyflymach hwyr na boreu. Chwerw fydd y gwir. Chwedleuwr da yw amser. Drwg diwedd gwr y gwatwor. Da yw darn oddiar leder dyn arall. Diod i'r syched na ddaeth. Enllyn da yw newyn. Gnawd ffawd ar ffôl. Gwell dyma" na lle mae ? Gwae a wnelo'r drwg ac a fo tlawd wedi hynny. Gwae a roddo ddrwg gyngor, a gwae a'i gwnelo. Gweddw'r grefft heb ei dysg. (Gweddw crefft heb ei dawn). Gwell gorffwys ar sypyn na llwyddiant ar fryn. Gyda phob buwch ei llo. Gwell tamed oddiar gwning na dau damed oddiar gath. Gwell y neb a roddo eithin ar glawdd na'r neb a roddo gastell yn y coed. Gwerthfawr yw'r llanc i'r neb a'i rhoddo ar wasanaeth,