Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EFE A YMDDIGRIFA YNOT DAN GANU." Dros fànnau pell yr Anwel Y disgyn miwsig byw, Llonyddaf mewn addoliad mud,— Daw'r gân o wefus Duw Y Sanctaidd dry i ganu Ar rodfa wèn y ser, A gwrendy'r haul a'r lleuad fwyn Ar ganig felus Nêr. Ei drem sydd ar Ei Eglwys Sy'n ngwylloedd oer y byd, Hyhi sy'n rhoddi ar Ei fin Wynfäol gerdd o hyd Gwyr hi am oriau hudol Dan falm ei gardod dderch, Gwyr am y ffyrdd blodeuog sydd Yn arwain at Ei serch Os blin a hir ei hymdaith, Deil grym y Nef uwchben, A theifl Duw ei oleu claer Yn gawod ar ei phen Ei llwybrau drwy yr oesau Sy'n llwybrau'r fendith dêr, Ac uwch na'r 'stormydd yn ei nen Yw swynol gerddi Nêr. Digrifwch y Tragwyddol Sydd yn Ei Eglwys lân, Pwy fesur y llawenydd sydd Yn crynu yn Ei gân ? Cerddoriaeth y dyfnderau Sydd ar ei wefus Ef, Dros fyrdd o orthrymderau dig Y dring y gerdd i'r net. Yn encilfëydd ei chalon Mae llonder yn ystôr, Cyfrana o rodfeydd y llawr At gariad-anthem Iôr Ar uchelfeydd y Gwynfyd Mor llawen ydyw Duw, Ei lygaid fflachiant gan fwynhad A chân orfoledd byw. Llonydda yn Ei gariad," Dan nennau Hafan gwell, Mae ei fwynderau gyda'r fun Sy'n dod o'r anial pell Wrth roi Ei Hun i'w Eglwys Mac Ef yn cael Ei Hun,