Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARCUS AURELIU3 A'I FYFYRDODAU. O HOLL bennau coronog y byd, ni cheir cymaint ag un a saif yn uwch ei barch a'i anrhydedd na Marcus Aurelius-y goreu o Ymerawdwyr Rhufain. Mae enwau y rhai anheilyngaf o'r gwyr mawrion hynny, megis Tiberius, Caligula, Claudius, a Nero, wedi rhoddi syniad rhy isel i'r byd am danynt fel dosbarth. Ceir yn eu plith liaws o enwau ardderchog, megis Augustus, Nerva, Trajan, Hadrian, Titus Antoninus Pius, &c. Ac mae gwaith y rhai goreu ohonynt yn erlid y Cristionogiou wedi cymylu llawer ar ddisgleirdeb eu henwau hwythau, yn gystal ag ar y daioni oedd ynddynt. Y rhai goreu yn eu mysg oedd yr erlidwyr llymaf, a hynny, nid am eu bod yn fwy creulawn, ond am fod eu sel yn fwy dros lwyddiant yr ymer- odraeth, tra yn gweled yn amlwg fod dylanwad Cristionogaeth yn golygu ei dymchweliad sicr. Ond o'r oll o'r penaduriaid mawrion hynny, ac o holl bennau-coronog y byd, nid oes gymaint ag un, o bosibl, a ddaw i fyny ymhob agwedd yn ei gymeriad, ei ddoethineb a'i ddaioni yn gyffredinol â Marcus Aurelius. Dywed Mathew Arnold am dano: He is perhaps, the most beautiful figure in history. He is one of those consoling and hope-inspiring masters which stand for ever to remind our weak and easily discouraged race how high human goodness and perseverance have once been carried, and may be carried again. Marcus Aurelius was the ruler of the grandest of empires and he was one of the best of men." Nid yn yr hyn a gyflawnodd fel ymerawdwr yr oedd ei ragoriaeth mawr er hynny, ond yn yr hyn ydoedd fel dyn. Ynddo ef y codwyd y meddyliwr doeth a dwfn i urddas yr orsedd, ac y cyflwynwyd awenau llywodraeth bennaf y byd i'r Doethawr a garai weithredu yn uniawn ac yn drugarog yn llawer mwy nag y carai unrhyw rwysg a gwychder allanol. Y llenor oedd ef a garai ei lyfrau ymhell o flaen ysblander y palas, ac a hoffai lwybrau heddwch yn anghymarol fwy na swn rhyfel a thywallt gwaed; a'r hwn a adawodd yn gynysgaeth gynnyrchion ei fyfyrdod, y rhai a ragorant mewn gwerth ar ei holl fuddugoliaethau, ac a barhant i weinyddu addysg a chysur i oesau diddarfod. Nid oedd ef o linach y Cesariaid, yr hon ddaeth i'w therfyn gyda Nero. Fel Trajan a Hadrian, a lliaws o wyr blaenaf Rhufain, yr oedd ef o darddiad Ysbaenaidd. Ei enw ar y cyntaf oedd Marcus Aunius Verus. Yr oedd yn fab i Aunius Verus a'i wraig Domitia Calulla. Ganwyd ef yn Rhufain, Ebrill 26ain, O.C. 121. Gwedi marwolaeth ei dad fe'i dygwyd i fyny gyda'i daid, yr hwn a gymerodd bob 'gofal am dano yn ei berson, ei gymeriad, a'i addysg, ac a'i