Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DADL Y SALMYDD AM FADDEUANT. Er inwyn dy enw, Arglwydd, maddeu jy anwiredd canys mawr yw."— Salmau xxv. II. TEBYG ydyw mai Dafydd a gyfansoddodd y Salm hon, ac mai yn lled ddiweddar ar ei oes y gwnaeth hynny, oblegid gweddia am faddeuant o bechodau ei ieuenctid. Math o gymysgfa ydyw y Salm o addewidion Duw, a deisyfiadau y Salmydd. Ymddengys fod y Salmydd yn myfyrio ar addewidion Duw, ac eilwaith yn torri allan i'w gweddio. Yn yr adnodau blaenorol i'r uchod, sylwa mor dda ydyw Duw i'r rhai a gadwant ei gyfamod a'i dystiolaethau," sef i'w blant ei hun. Dywed Calvin iddo, ar ol sylwi mor dda ydyw yr Arglwydd wrth ei blant droi i mewn iddo ei hun i chwilio am brofion a oedd yn un ohonynt, ac iddo gael y fath olwg ar ei ddrwghaeddiant nes torri allan yn y fan i lefain-" Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu fy anwiredd, canys mawr yw." Ac felly dyna a welwn yn yr adnod hon ydyw dyn yn beiddio troi i mewn i chwilio ei galon ei hun, ac yn cael ei argyhoeddi yn llwyr nad oes gobaith iddo am waredigaeth ond ar dir maddeuant pechodau yn unig, ac yng nghrym y teimlad hwn yn llefain am faddeuant, ac yn ategu ei ddeisyfiad gyda dau reswm, neu ddadl ddwbl. Y Rheswm CYNTAF NEU Y RHAN GYNTAF O'R DDADL YDYW ENW" YR ARGLWYDD." Er niwyii dy enw, Arglwydd, maddeu fy anwiredd." Hawdd canfod y teimlai y Salmydd fod yna rhyw berthynas agos iawn rhyngddo a'i anwiredd. FY anwiredd." Yr oedd ganddo lawer o bethau, ond teimlai fod ei anwiredd yn feddiant mwy cyfreithlawn iddo na phopeth arall. Ac y mae gan rai dynion lawer o bethau yn y byd-tai a thiroedd, aur ac arian, ond prin y mae yn briodol eu galw yn eiddo iddynt, gan mor fuan y byddant yn cael eu cymeryd oddiarnynt a'u rhoddi i rywrai eraill. Pethau benthyg ydynt ar y goreu. Ond am ,bechod y mae hwn yn eiddo priodol a chyfreithlawn i'r dyn ei hunan, nis gall ei roddi i arall yn ei fywyd na'i drosglwyddo i arall yn ei ewyllys. Os na cha ymwared ohono trwy faddeuant cyn marw fe fydd yr anwiredd yn gorwedd yn drwm ar ei esgyrn yn y bedd, fe adgyfyd gydag ef fore'r adgyfodiad, fe fydd yng nglun wrtho yn y farn, ac fe fydd yn eiddo cyfreithlawn iddo am dragwyddoldeb. Ac y mae y Salmydd yn teimlo hyn, ac yn llefain am faddeuant, ac yn dyfod a dadl ymlaen dros ei ddeisyfiad, sef Enw yr Arglwydd. A'r cwestiwn yn awr yw pa beth a olygir wrth enw yr Arglwydd yn y Beibl ?