Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYNIADAU HEN A DIWEDDAR AR GYFANSODDIAD MATER. BETH yw mater ? Beth yw ei gyfansoddiad ? Dyma gwestiynnau ag y mae athronwyr a gwyddonwyr wedi bod yn ceisio ei ateb er yr oesau boreuaf. Ac er yr holl chwilio a dyfalu, rhaid cydnabod nad yw syniadau meddylwyr yr oes oleuedig hon ond amherffaith iawn. Yr un pryd, credwn yn sicr eu bod yn awr wedi cael gafael ar hedyn o wirionedd. Amcan yr ysgrif hon fydd rhoi crynhodeb byrr a syml o'r amrywiol syniadau sydd wedi ac yn ffynnu am gyfansoddiad mater, ac hefyd awgrymu pa sut yr arweiniwyd dynion i ffurfio a choleddu y cyfryw syniadau. Y mae yn hysbys i bawb ein bod yn adnabod mater mewn tair ffurf, sef sylwedd cyfanol (solid), fel hylif, ac fel nwy. Feallai fod rhai yn tybied mai hawdd yw gwahaniaethu rhwng y tair ffurf hyn, ac fod yn bosibl gosod popeth yn ei ddos- barth priodol ei hun. Ond camgymeriad yw hyn. Y mae rhai pethau sydd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fel cyfanion er mai hylifon ydynt mewn gwirionedd. A'r un modd, nid yw y Ilinell derfyn rhwng hylif a nwy bob amser yn hawdd ei thynnu. Beth felly sydd i benderfynu pa un ai solid ai hylif ai nwy yw unrhyw wrthrych neillduol ? Gellid ateb trwy ddweyd fod gan fater cyfan, megis haiarn, faintioli a ffurf, hynny yw, ei fod yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech i gyfnewid ei faintioli a'i ffurf. Y mae gan hylif megis dwfr faintioli, ond nid oes iddo ffurf, oblegid pan y tywallter dwfr o un llestr i un arall cymer y dwfr ar unwaith ffurf y llestr. Nid oes ganddo unrhyw duedd i barhau yn ei hen ffurf. Ond am nwy, ni fedd ef na maintioli na ffurf, oblegid pe rhoddid y swm lleiaf o nwy mewn ystafell neu lestr gwag o unrhyw ffurf a maintioli, fe ymeangai y nwy ar unwaith nes llenwi yr holl lestr. Hawdd felly fyddai gosod pob gwrthrych yn ei ddosbarth priodol ei hun pe byddai mater bob amser yn ymddwyn mewn rhyw un o'r tri dull hyn. Ond nid felly y gwna bob amser. Meddylier, er engraifft am y defnydd adnabyddus hwnnw, pyg (pitch). Gwyr pawb fod pŷg, pan yn oer, can galeted a'r graig, a diameu gennyf y byddai y rhan fwyaf ohonom yn barod i'w restru ym mysg y cyfanion. Ond rhodder darn ohono mewn llestr a gadawer ef yno mewn ystafell oer am ychydig o flynyddoedd, ceir ar derfyn hyn o amser fod y p\"g wedi rhedeg o dan ei bwysau ei hun ac wedi cymeryd ffurf y llestr yn hollol fel ag y gwnelai dwfr. Dengys hyn fod pjg yn ufuddhau i ddylanwad y grym lleiaf sydd yn ceisio newid ei ffurf, ond i'r grym hwnnw gael digon o amser i weithredu. Am y rheswm yma, rhaid rhestru pyg ym mysg yr hylifon ac nid ym mysg y cyfanion fel yr ymddengys yn briodol gwneud ar yr olwg gyntaf. Yr ydym wedi dwyn yr engraifft