Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OWAIN LLEYN. Ar odre tir llechweddog a theg, rhwng Bottwnog a Myllteyrn, y mae ffermdy palasog o enwogrwydd hynafol o'r enw Bodnithoedd, yn canol-bwyntio ar olygfeydd prydferth a rhamantus, llawn o ddyddoriant traddodiadol ac hanesiol. A pha ryfedd fod y fan wedi ei ddewis unwaith yn sedd i deulu ucheldras ein gwlad er's canrif- oedd cyn cof-hen deulu ag oeddynt arferol ag olrhain a chadw eu hachau yn dra manwl, yn 01 yr hen drefn Gymreig, y mab yn cymeryd enw bedydd y tad yn ail enw, fel y canlyn Hugh Sion ap Syr Sion, Cler. ap Richard ap Hugh ap Siamas ap Madog ap Llywelyn Vychan ap Gruffydd ap Ifan ap Gruffydd. Mam Hugh ap Siamas oedd Catrin, ferch Richard Trygarn. Mam Siamas ap Madog oedd Angharad, ferch Gjuffydd ap Robert, o Gychwillan. Mam Madog ap Llywelyn Vychan oedd Gwen, ferch Madog ap Ifan ap Enion, o Efionydd. Mam Richard ap Hugh ap Siamas oedd Margaret, ferch Gruffydd ap Ifan ap Sion Carreg. Hugh ap Sion a briododd ferch Sion Wynn ap Robert ap Morgan, o Ben Yma hefyd, yn y flwyddyn 1786, y ganwyd Mr. Owen Owen (Owain Lleyn), yr hwn oedd ddisgynydd o Rhys ab Tewdwr Mawr ac o Drahaiarn Goch, Arglwydd Cwmmwd y Maen, yn Lleyn ac felly o'r un linell redegol yn ei haniad â theuluoedd Bodwrdda, Brynkir, Carreg. Cefnamwlch, Glynllifon, Graianog, Saethon, &c. (Gweler y Gleanings from God's Acre, td. 154 a 155.) Ceid y ddwy gangen o'i deulu-y naill yn preswylio ym Mhenarth, Clynnog Fawr yn Arfon, a'r llall yn Neugwl Uchaf yn Lleyn. Yng nghwrs amser, wedi i brydferthwch oedran y bachgen ymdoddi i lawn bryd- ferthwch oedran y dyn yn Mr. Owen Owen, efe a ymunodd yng nglân ystâd priodas â Dorothy, merch David Evans, Ysw., Nantllef a bu o'r cyfryw undeb iddynt wyth o blant, y rhai a fagwyd ac a feithrinwyd gyda gofal ym Modnithoedd. Ac yma, yn nhawelwch mudanaidd y wlad, heb ddim i dorri ar yr heddwch parhaol ond swn ambell gerbyd afrosgo, tra ar deithiau ol a blaen rhwng Aberdaron a Phwllheli, y tyfodd ac y dadblygodd y tueddiadau hynny fu a rhan ganddynt yn ffurfiad athrylith eu tad. Plant natur oeddynt ei rieni ef. Dyna ei dad wedi ei fagu mewn mangre wyllt ym mhlwyf myn- yddig Clynnog Fawr, a'i fam eilchwyl wedi ei dwyn i fyny ar wastadeddau gwyrddwelltog glannau Afon Soch, ac yntau wedi etifeddu cyfran y tad a'r fam o faeth naturiaeth y naill le a'r llall.