Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYFODOL YR EISTEDDFOD. CYTuNIR yn dra chyffredinol mai Eisteddfod Genedlaethol Caernar- fon eleni oedd y fwyaf lwyddiannus a welwyd yng nghof neb byw. Ac eto yn yr Eisteddfod y dywedir ei bod yn rhagori ar bob un a'i blaenorodd, y clywid cwynion am Ddirywiad yr Eisteddfod, ac y codwyd cri mynych am ei diwygio! Ar y wyneb ymddengys hyn yn anghyson. Mewn gwirionedd nid yw felly. Pan chwilir i fewn yn fanwl i'r amgylchiadau ac i'r cwynion, ceir fod digon o sail i'r olaf, a bod y blaenaf yn cyfiawnhau y cri a godir am ddiwygiad. Dadleu- odd y Cymmrodorion nos Lun gysylltiad yr Eisteddfod â'r Colegau; y Beirdd, nos Fawrth, Fesur Diwygio'r Orsedd; a chyd-gyfarfod y Cymdeithasau nos Iau y cwynion yn erbyn yr Eisceddfod fel y mae. Mae y cwestiwn o Ddyfodol yr Eisteddfod felly yngoleuni y gwahanol ddadleuon hyn yn dyfod o dan y tri phen 1. Cysylltiad yr Eisteddfod â'r Colegau; 2. Diwygio'r Orsedd; 3. Diwygio'r Eisteddfod. Ac mae'r tri yn anwahanadwy gysylltiedig â'u gilydd. Rhaid cydnabod mai ychydig iawn o oleuni a daflwyd ar y cyntaf o'r tri phen yng nghyfarfod y Cymmrodorion. Boddlonodd Mr. Llewelyn Williams ar ymosod ar y Colegau a dyrchafu yr Eistedd- fod. Boddlonodd yr Athraw Lloyd ar ymosod ar yr ymosodwyr, ac ar ddyrchafu y Colegau. Ychydig, os dim, cyfarwyddyd a gafwyd gan y naill na'r llall ar ddyfodol cysylltiad yr Eisteddfod â'r Colegau. Gadawn ninnau hwn ar hyn o bryd yn y man y gadawyd ef gan y Cymmrodorion, oddigerth i'r cwestiwn godi yn achlysurol wrth ym- drin â'r ddau ben arall. Mae Dyfed wedi hynodi ei esgyniad i Gadair yr Archdderwydd drwy wasgu ymlaen Fesur cynhwysfawr er Diwygio'r Orsedd. Nid ydym am ymyrryd yn yr hen ddadl rhwng yr Athraw John Morris Jones a'r Gorseddogion gorselog. Ni pherthyn i gylch yr erthygl bresennol benderfynu pa un ai Noah ai Iolo Morganwg a sefydlodd Orsedd Beirdd Ynys Brydain." Digon i ni ar hyn o bryd yw y ddwy ffaith bwysig fod yr Orsedd mewn bod, a'i bod yn hawlio cryn lawer o awdurdod dros yr Eisteddfod. Nis gall yr Athraw o'i am- ddiffynle yn Llanfair Pwll Gwyngyll nac o'i ymosodle yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor, fwy na neb arall, anwybyddu y ddwy ffaith hanfodol yna. Y cwestiwn pwysig i'w ystyried yw: A oes dichon diwygio yr Orsedd yn y fath fodd ag i'w gwneud yn allu teilwng o barch, teilwng (a galluog) i hawlio ufudd-dod, ac yn ddylanwad dyrchafol yn y byd Eisteddfodol ? Tybia Dyfed a'i gyd-ddiwygwyr ei bod ac felly maent yn barod i wynebu beirniadaeth lem ac erlid chwerw er mwyn cyrraedd amcan mor dda.