Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU LLENYDDOL A DIWINYDDOL. Homiliaü: Gan y diweddar Barch. R. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan). Gee a'i Fab, Dinbych. Y mae enw y gyfrol hon yn awgrymiadol. Nid pregethau ond Homiliau, canys hoff oedd yr awdwr o hên eiriau y clasuron Cymreig. Chwith yw meddwl ei fod ef ei hun wedi cadw noswyl cyn i'r gyfrol ymddangos drwy y wasg. Yr oedd wedi ei pharotoi yn fanwl a hamddenol wedi darllen cryn nifer o'r prawf- lenni, ac yna-disgynnodd y llen Ond cyn ei fyned ymaith, efe a gyflwynodd yr Homiliau i ofal ei gyfaill cyfarwydd Mr. Ezra Roberts, Ruthyn, a gwnaeth yntau ei ran gynil a doeth. Bellach, wele'r gwaith wedi ei orffen, a'r gyfrol wedi ei chyhoeddi mewn ffurf hylaw a destlus. Dyma gymunrodd Emrys ap Ioan i'w wlad a'i genedl a diau gennym y bydd Cymry darllengar yr oes yn ei chyfrif yn drysor llenyddol yn un o'r pethau gwychaf o ran iaith a meddwl a fedd ein llen- yddiaeth. Yn ystod ei oes, yr oedd cylch gweinidogaeth Emrys ap Ioan yn gym- harol fychan. Dyna fel y dewisai iddo fod. Nid oedd yn chwenych cyhoeddus- rwydd. Carai efe yr encilion. Ni welid ef mewn cyrddau pregethu, ac nid oedd yn arfer teithio o Jerusalem hyd IHyricum i gymanfaoedd ei gyfundeb. Tra- ddodwyd yr Homiliau i gynulleidfaoedd bychain, fel rheol mewn addoldai gwledig yn Nyffryn Clwyd, a'r cyffiniau. Mawr oedd eu braint! Cawsant fwyn- hau gweinidogaeth feddylgar, goeth, a phur. Y mae rhywrai yn barnu pregethwr yn 01 maint yr addoldy y byddo efe ynddo; addoldy mawr-pregethwr mawr; addoldy byehan-pregethwr cyffredin. Dyna ddull y byd hwn o edrych ar y peth; ac y mae llawer o saint yn ddigon dwl i feddwl yr un modd Ond yr oedd Emrys ap Ioan yn eithriad i'r rheol. Gogoneddodd efe addoldai â chynulliadau bychain drwy roddi iddynt oreu ei feddwl a'i athrylith. Nid oedd ganddo lawer o barch i'r swydd, a hi yn unig ond yr oedd gwaith ei swydd yn gysegredig yn ei fryd. Llafuriai yn galed a chydwybodol ar gyfer y pwlpud. Nid aberthai y dall a'r cloff ar allor yr efengyl. Gosodai ei wybodaeth, ei fedr llenyddol, ac argy- hoeddiadau personol, dan dreth i weinidogaeth y Gair. Tithau'n ddifost a dderbyniaist eu cedau I'w hongian yn offrwm ár drostan y Groes." Dywedai Hugh Miller am ei dad,-y saer maen hwnnw yn Cromarty, ei fod yn rhoddi ei gydwybod yn mhob carreg a osodai yn y mur. Gellid dweyd yr un peth yn union am lafur meddyliol Emrys ap Ioan Y mae pob maen, pob brawddeg, yn nheml yr Homiliau hyn, wedi eu cwbl naddu. Y mae ol bwyell Llawdden ar yr oll. Ond fel gweithiwr celfydd, y mae yn cuddio ei grefft. Y mae'n wir fod amryw o'i neillduolion fel ysgrifennydd Gymraeg-yn dod i'r golwg yng nghorff y gwaith ac y dichon y bydd amrywiaeth barn am ei arddull lenyddol. Ond nid oes arlliw rhodres na ffug ar unrhyw frawddeg yng nghorfl y llyfr. Ac y mae ynddo ugeiniau o frawddegau perffaith gwbl o ran cyflead a phwynt. Ar y cyfrif hwn, y mae y llyfr yn drwyadl ddarllennadwy mater da, dwysedig, mewn cyfrin.