Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iad âg iaith ac ymadrodd nas gellid eu rhagorach. Fel y dywed y Golygydd yn ei ragymadrodd persain: Y mae cywreinder y celfyddwr, grym y meddyliwr, a dawn y dysgawdwr, wedi eu cydblethu yn Homiliau Emrys ap Ioan. Gofalai am lusern dlos, yn llawn goleu, a pharai iddi lewyrchu i'r conglau tywylllaf; ond bob amser er mwyn goleuo. Llusern i draed. a llewyrch i lwybr ei wrandawyr oedd ei oleuni ef. Gallai ymddisglaeiio ond er mwyn dangos, ac nid yw-ddangos y gwnelai hynny." Ac, yn awr, wedi iddo ef ymado i'r distaw dir, y mae llusern ei feddyliau yn para i oleuo yn yr Homiliau gwerthfawr hyn ac yr ydym yn hyderus y bydd darllennwyr y Traethodydd yn llawenychu yn ei goleuni, goleuni gloew, melus, mwyn! Yn y gyfrol hon y mae Emrys ap Ioan yn llefaru eto ac i lefaru, ni a hyderwn, tra y bydd Dyffryn Clwyd yn glasu! Ceir darlun rhagorol o'r awdwr ar y wyneb-ddalen ac y mae y gyfrol oll yn deilwng o swyddfa'r Faner. Ei phris ydyw 3/6. Epistolau Petr Esboniad gan y Parch. Griffith Ellis, M A., Bootle. Darparwyd yr esboniad hwn ar gyfer maes llafur Undeb Ysgoliou Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd am 1906-7. Dywed yr awdwr mai un o orchwylion dedwyddaf ei fywyd oedd paratoi y gwaith. Gwnaed hynny dan anfanteision, yng nghanol gwendid a llesgedd ond nid oes dim o ôl y pethau hyn ar gynnwys y llyfr. Yr oedd yr awdwr yn llawenhau," fel y dywed Petr am y saint sydd ar wasgar," er ei fod ychydig, yr awrhon, os rhaid, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau. Y mae ôl llafur ac ymchwiliad nid bychan ar yr esboniadaeth ond nid yw yr awdwr yn tywyllu cyngor, nac yn peri i'r darllennydd dystiolaethu fel yr hen frawdhwnnw,—ei fod yn deall Petr, ond yn methu yn glir a deall ei esbonwyr Credu yr ydym y bydd yr Esboniad hwn yn gymhorth cyfamser i ddeall epistolau Petr, ac y gwneir defnydd helaeth ohono gan ddeiliaid ein Hysgolion Sabbothol. ANTHROPOS. Cyfrol GOFFA. Hanner Canrif o Lafur Gweinidcgaethol y Parch. Abel J Parry, D.D., Rhyl. Yn cynnwys Bywgraphiaeth a Phregethau (xxv.): Ei Adgofion o'i Febyd hyd derfyn ei Weinidogaeth yn y Cefn Mawr, ganddo ei hun; yn nghyd âg Ysgrifau ar amryw Weddau ei fywyd Cyhoeddus, gan Awduron o ddau tu y Werydd, Dan Olygiaeth y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd), Colwyn y Parch. W. Hughes, F.R.G.S., Colwyn Bay. Lleinw Adgofion Dr. Parry 142 o dudalenau ac y maent yn hynod o ddyddorol. Ein gofid ydyw na buasent yn llawer helaethach. Nid ydynt yn cyrhaedd ym mhellach na diwedd ei gyfnod cyntaf yn y Cefn Mawr. Dyfynwn un paragraph, yn cynwys hanes tra chyffrous- Ym mhen tua mis, dychwelais yn ol i Bontypwl, ond ar y ffordd dygwyddodd anffawd ddifrifol i'r trên. Pan yn agoshau at orsaf Nantyderi rhuthrodd y trên oddiar y rails, a lladdwyd tri o'r teithwyr a bu nn ohonynt farw a'i ben ar fy mynwes i. Un peth yn nodedig yn nglyn â mi oedd, pan yn yr Amwythig yn newid traitt, aethum y tro cyntaf i'r cerbyd Ile yr