Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eisteddai y rhai wedi hyny a laddwyd: heb un rheswm am hyny daethum allan, ac aethum i'r un na ddygwyddodd niwed i neb ynddo, er ei fod yn agosaf i'r peiriant! Pa fodd i gyfrif am yr impulse a barodd i mi newid, nis gwn: nid oes genyf ond ei briodoli i Ragluniaeth yr hwn a lywodraetha yn amgylchiadau dynion. Yr oedd y galanastra yn ddychrynllyd i edrych arno. Er na chefais i unrhyw ddolur nac anaf, cefais shock a adawodd ei ol ar fy nerves am flynyddoedd llesteiriodd gryn lawer arnaf i gymeryd i fynu yr efrydiaethau colegol, gyd â'r awch ymroddol ag y bwriadwn, er adennill yr hyn a gollaswn drwy fy afiechyd. Gyda chynnifer o wahanol awdwyr, ceir llawer o amrywiaeth yn yr arddull ond y mae y gyfrol drwyddi yn gyforiog o ddyddordeb. Ennillodd Dr. Parry yn fuan safle uchel fel pregethwr yn mysg y Bedydd- wyr; a daeth yn foreu yn dra adnabyddus i enwadau eraill fel darlithydd a phregethwr; ac y mae bellach er's mwy na deng mlynedd ar hugain yn ddyn cenedl yn hytrach na dyn enwad. A. chredwn y croesawir y Gyfrol Goffa hon gan weinidogion ac aelodau pob enwad crefyddol Cymreig yn ddiwahaniaeth. Am y pregethau, anhawdd fyddai defnyddio iaith rhy gref. Er mor ddydd- orol yr Adgofion gan Dr. Parry, a'r Ysgrifau gwerthfawrogol gan yr amryw awduron, trysor penaf y gyfrol yn ddiddadl ydyw y pregethau. Fel Dr. Owen Evans, Llundain (yn awr o Liverpool), y mae Dr. Parry, ar ol hanner canrif o weinidogaeth yn parhau yn heinyf o ran corff, ac ieuengaidd o ran yspryd. I ychydig y rhoddir y fraint hon. Machluded eu haul ill dau yn araf a digymmylau. Derbyniwyd:— Individualism and Collectivism," by C. W. Saleeby. Wil- liams & Norgate. Price, 2s.. Expository Times for September. T. & T. Clark. The Hibbert Journal for July. Williams and Norgate. Llanwer Chwi â'r Ysbryd Glân," gan y Parch. M. H. Jones, M.A., Caer- fyrddin. Nansi Merch y Pregethwr y Dall," gan Elwyn a Watcyn Wyn. Hughes and Son. •' Actau yr Apostolion, pen. i.-xii. gan y Parch. J. Morgan Jones, Caer- dydd. "Tystiolaeth Bedydd," gan E. K. Jones, Brymbo. Llangollen W. Wil- liams. Pris, is. Grawnsypiau Ffydd," gan y Parch. J. S. Jones (Bran ap Llyr). Gwrecsam Hughes and Son. "Y Cerddor," "Yr Ymwelydd Misol," "Cymru'r Plant (am Awst). Gwrecsam Hughes and Son. Tlysau Ynys Prydain," gan H. Brython Hughes. Gwrecsam Hughes and Son. Pris, 1/6.