Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YMNEILLDUAETH. Y mae Ymneillduaeth fel pwnc yn un tra eang, ac ar rai ystyrfaethau yn lled ddyrus. Adran ydyw o Hanes yr Eglwys Gristionogol, ac yn cymeryd i fewn hefyd fesur o Hanes yr Athrawiaeth. Gwybodaeth esgeulusedig i raddau helaeth yng Nghymru ydyw hanesiaeth. Prin y rhoddwyd yn yr amser a basiodd gymaint o sylw i hanes Prydain, ac yn arbennig i hanes Cymru, yn yr ysgolion elfennol ag a roddwyd i Ddaearyddiaeth, Gramadeg, neu Rifyddiaeth. Nid yw yn syn gan hynny fod cymaint o ddieithrwch i'r hanes pwysicaf oll, hanes Eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd, hanes Duw yn achub y byd, a hynny mor gyflym agy caniata y gymdeithas hon iddo. Gwelir arwyddion o'r dieithrwch hwn hyd yn nod ym mysg deiliaid deallus ein Hysgolion Sul, ac ychydig sydd o le i'r pwnc yn llenydd- iaeth ein cenedl. Y mae yr esgeulusdra hwn o hanes yr eglwys yn gyffredinol, ac o hanes Ymneillduaeth fel rhan ohono, yn feius a niweidiol. Nis gellir ffurfio syniadau cywir am yr eglwys, na meithrin parch tuagati a brwdfrydedd dros ei gwaith, heb ymgydnabyddu i fesur gweddol helaeth â'i gorchestion yn y gorffennol. Nid yn unig manteisir yn ddeallol, ac eangir ein gwybodaeth trwy efrydiaeth o'r pwnc, ond ceir hefyd yr ennill llawer pwysicach o nawseiddio ac ysbrydoli ein meddwl trwy fyfyrdod arno. Fel y dywed y diweddar Ddr. John Hughes: Yn nesaf at wybodaeth o'r Ysgrythyrau Sanctaidd nid oes un gangen o wybodaeth mor fuddiol a'r gangen hon. Mae ynddi allu i lefeinio y meddwl â rhyw naws neillduol mae yn eangu y meddwl, yn ei dyneru a'i dymheru, ac yn ei wneuthur yn llawer mwy rhyddfrydig, yn gwrthweithio ei wylltineb a'i eithafiaeth, ac yn creu o'i amgylch fath o awyrgylch nas gall gwahanol rywogaethau o fympwyon anadlu yn hir o'i mewn. Dysga y gangen hon o wybodaeth nas gall un sefydliad barhau am hir amser yn gwbl yn yr un ffurf, a bod diogeliad ei hanfod mewnol yn ymddibynu i ryw raddau ar gyfnewidiadau mynych yn ei arweddau allanol. O ganlyniad y rhai mwyaf gelyniaethus i'w lwydd ydyw y rhai a lynant yn ystyfnig wrth holl fanylion ei ffurf. Tra yn proffesu bod yn gyfeillion iddo, ac mewn gwirionedd ym meddu hoffder ato, y maent, yng ngrym anwybodaeth, yn gwneuthur mwy o niwed iddo hyd yn nod na'i wir gaseion. Dinystrwyr yn wastad ydyw y ceidwad- wyr eithafol, a'r gwir geidwadwyr yw y diwygwyr."