Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFIEITHIAD NEWYDD O'R PROFFWYD MALACHI. Nid oes un ran o'r Hen Destament yn teilyngu cyfieithiad newydd yn fwy na llyfrau y proffwydi. Y mae cynnydd gwybodaeth yn yr oes hon wedi gwella yn ddirfawr y moddion sydd gennym i gyrraedd geiriau y proffwydi yn ogystal a'u gwir ystyr. Ond uwchlaw y cwbl, y mae cyfansoddiad yr hyn a elwir eu llyfrau yn graddol ddyfod yn fwy amlwg. Casgliadau o areithiau a phregethau y proffwydi ydyw yr hyn sydd wedi dod i lawr i ni, yn gynwysedig gan mwyaf o anerchiadau byrion neu o nodiadau, crynhodebau, ac adroddiadau talfyredig. Cynnwysa pob un o'r casgliadau hyn y cyfryw weddill- ion ag sydd yn gyffredin yn goroesi areithiwr neu bregethwr. Mewn rhai achosion dechreuwyd gwneud y casgliadau yn ystod bywyd y pregethwr, ond yn gyffredin, yn ddiau, gwnaed hwy gan gyfeillion a disgyblion wedi marwolaeth y proffwyd, ac ni chwblha- wyd rhai ohonynt am amser maith ar ol marw pawb a glywodd ei lais. Wrth ystyried hanes y casgliadau hyn, ceir eglurhad ar y ffaith eu bod yn cynnwys cynifer o gyfansoddiadau byrion, a bod eu gwahanol rannau mor anghysylltiol. Weithiau ni cheir trefn ynddynt na chynllun o gwbl. Gall datganiad ddilyn datganiad mewn modd hollol ddamweiniol, heb unrhyw gysylltiad mewn mater nac mewn amser. Os ydym am ddeall geiriau y proffwydi, rhaid i ni gadw y ffeithiau hyn mewn cof, a bydd i'r cyfieithiad mwyaf defn. yddiol wahanu yn glir y gwahanol ddatganiadau y naill oddiwrth y llall. Fel engraifft o'r hyn ellir ei gyflawni tuagat wneud yr ysgrifeniadau hyn yn fwy dealladwy, y mae fy nghyfaill a'm disgybl, Mr. Edward Evans, B.A., yn cynnyg i ddarllenwyr Y TRAETHODYDD gyfieithiad newydd o'r proffwyd Malachi. Ymgynghorodd â mi parthed y gwahanol raniadau a'r testyn i'w fabwysiadu, ac yn y pethau hyn dilynodd fy awgrymiadau. Dyry fwynhad mawr i mi allu croesawu y gwaith y mae wedi ei wneud mor ofalus a da. Dyma engraifft o wasanaeth y gallwn ddisgwyl i'n heglwysi ei dderbyn, yn arbennig oddiwrth ein gweinidogion ieuainc. Bydd y cyfieithiad newydd hwn wedi ateb ei ddiben os llwydda i beri i hyawdledd yr hen broffwyd adseinio eto yn fwy clir yng nghlustiau y genhedlaeth bresennol. WM. B. Stbvenson. CYHOEDDI GAIR JEHOVA I ISRAEL TRWY MALACHI. Mi a ddangosais fy nghariad tuag atoch, medd Jehova, ac a ddywedwch chwi Pa fodd y dangosaist ef?" Onid brawd Jacob yw Esau ? er hynny cerais Jacob a chaseais Esau, ac-jitfwnaethum