Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PLAID NEWYDD A CHRI NEWYDD. Nid oes dim ond Ymreolaeth neu ddinistr o'n blaenau. Yr wyf wedi meddwl am bob cynllun dichonadwy at wella sefyllfa y rhai yr wyf yn byw yn eu plith, a chredaf yn bendant mai yr unig ffordd yw sicrhau Ymreolaeth i Gymru. Mae Cymru am flynyddau wedi ei hesgeuluso yn fawr. Er fod cynllun o gyfansoddiad wedi ei roi iddi i amlygu ei dymuniadau cenedlaethol, nid oes yr un gyfraith effeithiol ar gael at sicrhau y pethau y mae angen am danynt yng Nghymru. Ceir llawer o dwrw ym mhob etholiad cyffredinol ac eir ymlaen yn y modd mwyaf difrifol i ddewis cynrychiolwyr. Addawant hwythau gefnogi pob mesur Cymreig, ond cyn gynted ag yr etholir hwy anghofiant eu haddewidion. Methant, o leiaf, a'u cyflawni. Paham ? Am fod corff marw wedi ei rwymo am danom. Yn ystod y blynyddau diweddaf gofynir i bob aelod Rhyddfrydol Cymreig gefnogi Dadgysylltiad, Mesur i Ddiwygio Deddfau'r Tir, cynllun Addysg hollol Genedlaethol, ae amryw gwestiynnau pwysig eraill a beth sydd ganddynt i ddangos i ni am yr ymddiried a roisom ynddynt ? Mewn gwirionedd, dim o gwbl. Gwnaed ymgais yn y Senedd ddiweddaf i roddi Deddf Addysg, yn ffafrio un corff crefyddol yn unig, am ein gyddfau. Hwyrach nad ydym yn myned llawer ymlaen ond yr ydym yn hollol wrthwynebol i fyned yn ol. Efallai nad ydym yn gallu cael yr hyn sydd arnom ei eisiau, ond y mae gennym y gwrthwynebiad mwyaf i dderbyn yr hyn sydd yn groes i ddiwygiad ac yn erbyn ein cenedlaetholdeb. Dyna bwnc y tir eto. Nid yw tir ein gwlad yn cynyrchu degfed ran o'r hyn a allai gynyrchu, pe delid ef gan genedl o fân ddeiliaid rhydd, yn lIe cael ei drin gan weision cyflog. Mae ein chwarelau a'n diwydiannau eraill, a fuasent yn ffynnu pe buasid wedi rhoi cyfle priodol i'r rhai sydd yn ennill bywoliaeth wael trwy eu gweithio, yn cael eu cau gan y perchenogion. Mae'r peiriannau sydd wedi costio miloedd o bunnau yn rhydu ac yn cael eu difetha. Onid oes mil- oedd o chwarelwyr profiadol wedi eu gyrru o'u cartrefi yn ystod y deuddeng mis diweddaf, a chyflogau miloedd eraill ohonynt wedi eu gostwng am nad yw y chwarelau wedi eu gweithio yn briodol? Bydded i ni atal gwaith yn ein chwarelau," medd y perchenogion, hyd nes y cwyd y prisiau. Ni leiha gwerth ein heiddo yn y cyf- amser. Byddant i'w cael ymhen deng mlynedd pan fydd arnom eu heisiau." Byddant; ond beth am y rhai sydd yn dibynnu am eu