Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYWYDDAU EDWARD MORUS. ER mai oddiar ei farddoniaeth rydd y cododd clod Edward Morus yn bennaf, eto y mae ei gywyddau a'i englynion yn deilwng o fwy o sylw nag a gânt yn gyffredin. Fe geir ynddynt darawiadau o'r pertaf, a disgrifiadau cymwys dros ben. Yr oedd yr awen wir ganddo, a gwyddai sut i gloddio at wreiddyn y mater." Rhyfedd fod cymaint dawn a dysg ym medru ffynnu o gwbl yn yr amgylch- iadau, ac i ni ystyried beth oedd bywyd y bardd. Tybed a oes borthmon heddyw a wnai cystal ag y gwnaeth Edward Morus? Neu o ran hynny mi allwn ofyn pa nifer o'r mân raddedigion o'm bath i fy hunan, sydd yn gor-lenwi'r wlad, a fedr wneud rhywbeth teilwng i'w osod yn gyfuwch â gwaith yr hen ŵr fu farw draw yn Essex yn 1689 ? Ond y mae gagendor anferth rhwng dysg ac athrylith. Ychydig iawn wyddom am Edward Morus. Yn ei waith y mae yn byw i ni. Gwyddai beth sy' gain, a cheisiai ddangos i eraill pa fodd i wybod. Bu fyw ar adeg pan oedd yn anodd byw yn lân, yn 01 ein syniad ni am lendid yn y dyddiau hyn. Ond canai am geinder, a harddwch bywyd, drwy'r cwbl, a hynny'n hy' a di-ofn; canai enaid y gerdd." Yr oedd yr iaith Gymraeg, iaith y bobl, yn anwyl iawn ganddo. Yn un o'i gywyddau y mae yn ei darlunio'n diolch i Esgob Llan Elwy am ei ddirfawr serch tuagati," Hen iaith ydwyf, nithiedig, O fewn bro a fu'n y brig, ac eir ymlaen i son am ei throion a'i heíbul, ac am ofal yr Esgob drosti. Gwelodd y bardd y dylid pregethu i'r bobl yn yr iaith fo'n ddealladwy iddynt, Pum' gair mewn eglwys Iwys lân Sydd well, os hwy ddeallan, Na myrddiwn mewn mawrddawn maith O doe athro dieithriaith. Saesneg oedd prif eilun y rhan fwyaf yr adeg honno fel yn awr drwyddi hi yr oedd cyrraedd parch a bri, llwyddo ac ennill arian, Celaf addysg celfyddyd, Seisnigwedd yw bonedd byd O'r Saesneg deg y digwydd Purach wellhad, parch a llwydd. Yn Saesneg ceid llyfrau gwychion, a phopeth ar ei oreu, Llafur tâl a llyfrau teg, a llyfrau Cymru'n cael eu taflu allan rywsut, A gwaith ein beirdd, gwaeth yw'n byd, A llai achles yn llychlyd, A llyfrau'n hoes, llafur ein hiaith, A dalennau di-lanwaith.