Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEGES f BEIRDD. Gyda gwawr y ganrif newydd daeth gwawr hefyd ar lenyddiaeth Cymru, a disgynnodd y goleuni yn gyntaf ar y mynydd uwchaf- barddoniaeth. Y mae wedi cyffwrdd erbyn hyn â'r holl faesydd; ond yn awr yr wyf am geisio troi ychydig gyda rhai o'r beirdd, y beirdd newydd," fel eu gelwir, weithiau fel croesaw a weithiau fel gwawd. Mae ymhyfrydu-ar air­-ac ymfalchio yn ein barddoniaeth yn beth parchus i'w wneud, er mai goreu po leiaf o ymholiad a wawn am nifer y darllenwyr nid yw pawb sydd yn siarad am Goronwy Owen yn ei adnabod, na phawb sydd yn honi cydnabydd- iaeth â Dafydd ab Gwilym wedi cael yr allwedd a'u galluoga i fwyn- hau meddwl carwr mor fudd. Fcl mewn llawer i wlad arall mae yng Nghymru heddyw rhy fach o ddarilen barddoniaeth, gormod o dderbyn barn ar goel, ac, mi gredaf, rhy ychydig o ryw fath o feirn- iadu. Wrth feirniadu nid wyf yn golygu beirniadaeth Eisteddfodol; mae gennym lawn ddigon o honno, yn llenwi colofnau yn y newydd- iaduron, ac yn hollol ddiwerth a diflas pan dderfydd y cyffro a'r cynhwrf. Nid beirniadaeth ein newyddiaduron ychwaith a feddyliaf, ar ei goreu peth i fyned heibio yw honno. Gafaelir yn y llyfr yn wlyb o'r wasg, edrychir drosto yn frysiog, ac ysgrifennir chwarter neu hanner colofn am dano er mwyn dweyd pa fath lyfr yw. Mae y farn gan amlaf yn hollol deg gan belled ag y mae yn myned, ond o dan yr amgylchiadau, ac o angcnrheidrwydd, nis gall fod yn der- fynol nac yn eang ei chyrhaeddiad. Amheus gennyf a oes llawer o ddarllen arni, a chan fod llyfrau dibwys weithiau yn cael eu canmol o garedigrwydd at yr awdwyr, mae perygl ym meirniadaeth y new- yddiadur i lygru chwaeth at lenyddiaeth. Da i ni ac i lenyddiaeth pe buasai gennym feirniadaeth lenyddol fwy diwylliedig ac eang ei chyrhaeddiadau, nid i ymwneud â llyfr penodol yn unig, ond hefyd âg egwyddorion a thueddiadau llenyddol yr oes, i gydmaru â chyd- fesur er ceisio gosod safon ger bron. Hyd y gwn i, nid oes gennym lyfr tebyg i Essays in Criticism," Mathew Arnold, nac i Ninteenth Century Literature," Saintsbury. Pe caem fwy o'r trefnu a'r dad- ansoddi yma mae'n debyg y byddai rhai pethau yn diflannu, ond y canlyniad fyddai uno mwy ar lenyddiaeth a'i gwneud yn allu llawer iawn cryfach ym mywyd y genedl. Byddaf yn meddwl mai i ddiffyg llyfrau fel hyn yr ydym i briodoli'r ffaith fod oes newydd ar lenyddiaeth Gymreig wedi gwawrio heb i ond ychydig weled y wawr. Mac syniadau a chre- doau newyddion wedi dyfod i mewn, ffurfiau a dulliau newyddion wedi eu mabwysiadu, ond mewn congl y mac hyn oll. Mae bywyd