Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y DEML GLADD." UN o'r meddylwyr a'r ysgrifenwyr mwyaf nodedig yn y Ffrangeg y dyddiau hyn, yn ddiameu, yw Maurice Maeterlinck, ac y mae dywedyd hynny am dano yn un peth a dywedyd ei fod yn un o fedd- ylwyr ac ysgrifenwyr mwyaf nodedig y byd. Dywed rhai beirniaid, a Tolstoy yn eu mysg, ei fod yn dywyll ac anodd i'w ddeall, ac y mae hynny yn wir am lawer o'i gerddi a rhai o'i ddramodau, megys Pelleas et Melisande a Les Aveugles," cyn belled, 0 leiaf, ag y mae gweled eu pwrpas yn myn'd. Gellir darllen Pelleas et Meli- sande lawer gwaith trosodd heb ddeall ei hystyr-o leiaf, dyna 'm profiad i--ac eto, ni wn i am ddim mor wir fedrus a gafaelgar â rhai rhannau o'r ddrama honno. Pe bernid ef wrth y gweithiau hynny yn unig, ni byddai yn anheg dywedyd ei fod yn grefftwr medrus yn hytrach nag yn feddyliwr clir; ei fod yn gwybod i'r dim sut i gyn- yrchu 'r teimlad a fynno yn y sawl a'i darllenno, a hynny yn y dull symlaf yn aml, yn hytrach na'i fod yn gwneuthur i bopeth wasan- áethu un diben deallus a chlir yn ei waith. Ond yn ei weithiau diweddarach, Le Temple Enseveli a áá La Vie des Abeilles," y mae efe wedi llwyr newid, nid yn unig o ran dull, ond hefyd o ran agwedd, os nad wyf fi yn ei gam ddeall, ac y mae'r llyfr a eilw efe "Y Deml Gladd" (" Le Temple Enseveli") yn sicr yn waith IIe mae'r meddwl dynol yn aml i'w gael ar ei oreu a'i gliriaf. Yn yr ysgrif hon, ceisiaf roddi crynhodeb o gynnwys y llyfr, nid am fy mod fy hun yn derbyn ei ddysgeidiaeth nac yn ei gwrthod, ond am ei fod yn ymddangos i mi yn ffrwyth meddwl grymus a chlir, ac ysbryd na byddai dynoliaeth ar ei cholled, beth bynnag, pe meithrinid rhagor arno. Rhennir y llyfr yn chwe rhan, dan y pennau a ganlyn — Cyf- iawnder, Twf Dirgelwch, Teyrnasiad Mater, Y Gorffennol, Ffawd, Y Dyfodol ac amcan yr awdwr, a siarad yn gyffredinol, yw cael allan pa beth sydd wybyddadwy i ddyn o'r hyn y sydd, ar un olwg, o leiaf, yn ymddangos fel dirgelwch anwybyddadwy. A yw efe yn ei ymgais yn myned yn rhy bell neu ynte yn methu a myned yn ddigon pell, barned y darllennydd drosto ei hun. Nid wyf fi yn deall fod yr awdwr yn gwadu bod Duw, er ei fod yn gwrthod llawer o'r syniadau yr ydys yn gyffredin yn eu coleddu am Dduw. Wrth drin ar Gyfiawnder, dywed ei fod yn siarad wrth y rhai nad ydynt yn credu ym môd un barnwr hollalluog a di ffael, yn gwylio ein meddyliau, ein teimladau a'n gweithredoedd; yn cynnal uniondeb yn y byd hwn, ac yn ei gwblhau yn rhywle arall. Ond os nad oes farnwr, a oes ynte gyfiawnder amgen nag a luniodd